Pont Hafren: 'Dathlu pont goffa i holl dywysogion Cymru'

  • Cyhoeddwyd
ken skates

Fe ddylai'r ail bont dros Afon Hafren gael ei dathlu fel "pont goffa i holl Dywysogion Cymru yn y gorffennol", yn ôl Ysgrifennydd yr Economi.

Daw sylwadau Ken Skates AC wedi i ffrae ddatblygu dros yr wythnosau diwethaf am ailenwi ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.

Mae bron 37,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

Mae'r enw newydd wedi derbyn beirniadaeth hallt ar y gwefannau cymdeithasol hefyd, gydag amryw yn cwyno nad oedd yna unrhyw ymgynghori gyda phobl Cymru.

Fe wnaeth Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, drydar ar y pryd ynglŷn â faint o ymgynghori a fu gyda Llywodraeth Cymru , dolen allanolcyn gwneud y penderfyniad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Tywysog Charles yn 70 oed ym mis Tachwedd

Mae rhai aelodau amlwg o'r blaid Lafur hefyd wedi beirniadu'r penderfyniad, gyda Paul Flynn yn disgrifio'r penderfyniad fel un "chwerthinllyd" oedd yn "benderfyniad gwleidyddol".

Mewn ymateb i gwestiwn amserol yn y Senedd ddydd Mercher dywedodd Ken Skates fod ail Bont Hafren yn ased i lywodraeth y DU, ac na wnaeth prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, wrthwynebu'r cynnig i newid yr enw.

Dywedodd Mr Skates wrth ACau na fydd yn gofyn i Lywodraeth y DU ailystyried enw newydd y bont.

Ychwanegodd Mr Skates: "Er bod enw newydd y bont yn nodi Tywysog Charles yn cael y teitl 60 mlynedd yn ôl, a'r ffaith ei fod yn troi'n 70 eleni, dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam na all gael ei dathlu fel pont goffa i holl Dywysogion Cymru yn y gorffennol."

Roedd Mr Skates yn ymateb i sylw gan arweinydd UKIP yn y Senedd, Neil Hamilton oedd wedi awgrymu y dylid ailenwi'r bont gyntaf ar ôl tywysogion eraill Cymru. Dywedodd Mr Hamilton:

"Mae angen i ni hysbysebu Cymru fel rhan o'r DU gyda brenhiniaeth hynafol ar llywyddu drosti. Mae gennym ail Bont Hafren ond oni fyddai'n syniad da felly i gydnabod y traddodiad arall ac enwi'r bont arall ar ôl Owain Glyndŵr neu Llywelyn ein Llyw Olaf?"