Paned a gwên yng Nghaffi Hapus Coleg Gwent

  • Cyhoeddwyd
Poster

I ddefnyddwyr yr 'Happy Cafe' cyntaf yng Nghymru, mae mynd am baned fel arfer yn golygu mwy na... mynd am baned!

Mae'r caffi ar gampws Cross keys o Goleg Gwent yn ceisio gwneud mwy na diwallu anghenion diodydd eu cwsmeriaid - maen nhw hefyd yn ceisio'u gwneud yn bobl hapusach drwy eu cynorthwyo i ymlacio dros baned.

Mae syniad yr 'Happy Cafe' yn ffenomenon fyd eang erbyn hyn, ac yn deillio o fudiad Action for Happiness a sefydlwyd yn y DU ond sydd bellach yn weithredol mewn mwy na 170 o wledydd ar draws y byd.

Eu nod, yn syml, yw dod â hapusrwydd i fywydau pobl.

Disgrifiad o’r llun,

Myfyrwyr a staff yn sgwrsio yn Happy Cafe Coleg Gwent

Darlithydd yn adran gofal y coleg yw Victoria English.

Ar ôl diodde' poen meddwl yn ei bywyd ei hun, fe ddechreuodd ddefnyddio techneg myfyrio gofalgar (mindfulness) a phenderfynu defnyddio hynny ym mhrofiadau bob dydd ei myfyrwyr.

Daeth croeso i hynny gan bennaeth yr adran, Debbie Field, a welodd bwysigrwydd hynny i'r myfyrwyr.

"Mae'n sail i'r cwricwlwm," meddai. "Mae'r cyfan am sut y gallwn ni wneud yn well i'r dysgwyr a sut y gallan nhw elwa fwyaf o'u profiad yn y coleg."

Caredigrwydd ar hap

Mae'r myfyrwyr yn defnyddo rhai o 10 sylfaen maniffesto Action for Happiness yn y cwricwlwm, gan gynnwys diwrnod o weithredoedd o garedigrwydd ar hap.

Penllanw'r cyfan oedd sefydlu'r caffi hapus.

Mae Happy Cafe bellach yn bodoli yn yr Unol Daleithiau, ar draws Ewrop i Asia ac Awstralia, ac fe agordd yr un yng Ngholeg Gwent flwyddyn yn ôl.

Maen nhw'n cynnal sesiwn fisol sy'n agored i bawb ynghyd â threfnu gweithgareddau arbennig ar ddyddiau pwysig yn y calendr iechyd meddwl, fel Diwrnod Amser i Siarad.

Mae'r caffi hefyd wedi codi cannoedd o bunnoedd i'r elusen ar gyfer pobl digartref, Llamau.

Disgrifiad o’r llun,

Debbie Field a Victoria English o'r adran gofal

Dywedodd Victoria English: "Ry'n ni hefyd wedi casglu pentwr o ddillad i'r digartref a Byddin yr Iachawdwriaeth, trefnu digwyddiadau ar gyfer Cŵn Tywys i'r Dall ac ry'n ni wedi codi dros £2,000 i wahanol achosion.

"Does dim diwedd i'r hyn y gallan nhw gyflawni. Maen nhw'n gosod esiampl i fyfyrwyr eraill y coleg."

Roedd Debbia Field hefyd yn credu fod y caffi wedi cynorthwyo i chwalu rhwystrau rhwng myfyrwyr a'r staff, ac mae darlithwyr a staff eraill yn cael eu hannog i fynd i'r caffi er mwyn ymlacio.

Ychwanegodd Ms English: "Dwi wedi synnu at pa mor agored mae'r myfyrwyr wedi bod wrth gofleidio'r syniad yma. Yn wir maen nhw'n dod yn ôl a gofyn am fwy."

Mae hi nawr yn cysylltu gydag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol gyda'r gobaith y byddan nhw hefyd am ymuno yn y fenter.