'Argyfwng' ariannu chweched dosbarth ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
DisgyblionFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae toriad o dros £20m wedi bod i gyllideb chweched dosbarth ysgolion dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod y gostyngiad yn bennaf o ganlyniad i newidiadau demograffig, a bod mwy yn dewis astudio mewn colegau neu'n dechrau hyfforddiant.

Ond mae cadeirydd llywodraethwyr ysgol uwchradd fwyaf Cymru yn dweud bod y sector mewn argyfwng, ac mae'n galw am fwy o dryloywder yn y modd y mae'n cael ei gyllido.

O £113m i £92m

Yn 2013-14, y gyllideb ar gyfer adrannau chweched dosbarth oedd £113m, ond yn 2018-19 roedd gostyngiad i £92m.

Mae'r gyllideb ar gyfer y chweched dosbarth yn cael ei dosbarthu i'r ysgolion trwy awdurdodau lleol, ond mae'n dod o gronfa wahanol i addysg orfodol hyd at 16 oed.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y gostyngiad mewn arian yn deillio o'r ffaith bod llai o bobl 16 i 18 oed yn rhan o'r boblogaeth, ac yn seiliedig ar wybodaeth gan yr awdurdodau am y niferoedd disgwyliedig ar gyrsiau.

Yn 2017 roedd 25,733 o ddisgyblion 16 oed a hŷn mewn ysgolion, o'i gymharu â 29,806 yn 2013.

Disgrifiad,

Dywedodd David Jones o Goleg Cambria bod yr addysg ôl-16 sydd ar gael mewn colegau yn fwy arbenigol

Yn ôl pennaeth Ysgol Gyfun Rhydywaun, Mark Jones mae "ystod o heriau yn digwydd o ran ariannu chweched dosbarth".

"Mae cyllidebau wedi crebachu ar draws y sector gyfan, yn ogystal â'r chweched dosbarth," meddai.

"Mae'r sefyllfa hefyd o ran disgyblion - niferoedd yn y chweched dosbarth wedi lleihau hefyd.

"Mae'n rhaid i ni gynnig rhyw nifer o gyrsiau ôl-16 safon uwch a chyrsiau galwedigaethol, ac wrth gwrs ni'n gorfod sicrhau bod niferoedd deche gyda ni er mwyn i'r costau rhedeg y cyrsiau hynny fod yn berthnasol yn ariannol.

"Yn y sector Gymraeg yn bennaf mae 'da ni sefyllfa hefyd o ran recriwtio staff ag arbenigedd mewn meysydd prin ac wrth gwrs mae daearyddiaeth yn ein herbyn ychydig bach o ran pellter teithio o ran rhannu cyrsiau ôl-16 gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill hefyd."

'Sector mewn argyfwng'

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer o adrannau chweched dosbarth wedi cau, yn arbennig yn Sir y Fflint a Sir Benfro, ac mae holl adrannau chweched dosbarth ysgolion wedi cau ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful.

Mae'r arian yna wedi ei drosglwyddo i golegau addysg bellach neu rannau eraill o'r sector ôl-16.

Mae gan Ysgol Uwchradd Eglwys Newydd yng Nghaerdydd un o'r adrannau chweched dosbarth mwyaf yng Nghymru, gyda dros 400 o ddisgyblion.

Dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr, Joyce Slack, fod y sector mewn "argyfwng".

Ychwanegodd fod diswyddiadau gwirfoddol wedi sicrhau eu bod yn gallu osgoi diswyddo gorfodol yn yr ysgol eleni.

Ond dywedodd bod diffyg tryloywder ynglŷn â chyllid yr holl sector ôl-16.

Joyce Slack
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Joyce Slack fod sector chweched ddosbarth ysgolion mewn "argyfwng"

Mae prif weithredwr Coleg Cambria, David Jones yn dweud nad yw am weld dosbarthiadau chweched yn diflannu o bob ysgol yng Nghymru, ond bod yr addysg ôl-16 sydd ar gael mewn colegau yn fwy arbenigol.

"Mae myfyrwyr sy'n mynd i goleg yn cael cyfle eang, mae'n bwydlen cyrsiau ni yn un eang dros ben - Lefel A, cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau - a dwi'n credu mai hwn yw'r gwasanaeth y dylai pobl ddisgwyl yng Nghymru.

"Mae'n paratoi nhw ar gyfer gwaith ac i fynd i'r brifysgol."

Fis diwethaf fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams y byddai corff newydd ar gyfer ariannu addysg uwch ac addysg bellach yn gyfrifol hefyd am adrannau chweched ddosbarth ysgolion.