'Angen mwy o brentisiaethau Cymraeg' medd ymgyrchwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi £10m i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.
Mae'r gymdeithas yn dweud bod ffigyrau 2014/15 yn dangos mai dim ond 0.3%, neu 140 prentisiaeth, gafodd eu cwblhau yn y Gymraeg o gyfanswm o 48,345.
Y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynnydd yn y buddsoddiad mewn prentisiaethau.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth ar y pryd, bod y swm o "£260m dros y ddwy flynedd yn adeiladu ar y llwyddiant ac yn galluogi [y llywodraeth] i gwrdd â'i hymroddiad i greu 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod oes y Cynulliad presennol".
Ddiwedd mis Rhagfyr dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y byddai rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ehangu i gynnwys colegau addysg bellach a'r sectorau dysgu sy'n seiliedig ar waith.
Pryder Cymdeithas yr Iaith yw "nad oes cyhoeddiad wedi bod am arian ychwanegol i'r Coleg er mwyn iddo allu cynyddu darpariaeth Gymraeg yn y sector".
Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg mae Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith yn nodi: "Mae'r diffyg darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn destun pryder mawr iawn i ni - mae 0.3% yn chwerthinllyd o isel.
"Mae'r llywodraeth yn buddsoddi llawer o arian yn yr hyfforddiant, ac mae hynny'n gwbl gywir, ond mae'n rhaid hyfforddi ein pobl ifanc i allu gweithio yn Gymraeg."
Yn ei lythyr bydd Toni Schiavone yn galw ar y llywodraeth i glustnodi £10m o'r gyllideb prentisiaethau, o dros £111.5m, i fod dan reolaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2019/20 er mwyn sicrhau mwy o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd: "Ni fyddai'r polisi hwn yn costio i'r llywodraeth yr un ceiniog ychwanegol - mater o drosglwyddo arian o'r gyllideb bresennol i'r Coleg Cymraeg fyddai fe.
"Fodd bynnag, byddai'r penderfyniad yn galluogi gweddnewid y sefyllfa er lles y Gymraeg a'i lle yn y gweithle.
"Credwn y byddai nifer o fuddion yn deillio o fabwysiadu'r polisi hwn - byddai o fudd i sefydliadau a chwmnïau sydd am wella eu darpariaeth Gymraeg a byddai o fudd ieithyddol, addysgol a diwylliannol i'r myfyrwyr."
Ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd llefarydd bod "swyddogion mewn cyswllt cyson gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bod yna fwrdd cynghori wedi'i sefydlu, sy'n cynnwys rheolwyr o'r sector Addysg Bellach, i gasglu barn y coleg am y gefnogaeth sydd ei hangen i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2017