Athro wedi 'cyffwrdd a phwyntio pen laser' at ddisgyblion
- Cyhoeddwyd
Mae panel disgyblu wedi clywed fod athro ysgol uwchradd o Lanelli wedi pwyntio pen laser at fannau preifat disgyblion ac annog plant eraill i'w taro.
Mae Martin Williams, 29, hefyd wedi ei gyhuddo o gyffwrdd tair merch ac un bachgen yn "amhriodol", a dweud wrthynt ei fod yn eu "caru".
Clywodd y gwrandawiad bod un ferch wedi dweud ei fod yn "annifyr", a'i fod wedi rhedeg ei fysedd drwy ei gwallt yn ystod gwers.
Dywedodd Mr Williams nad oedd yn ymwybodol ei fod yn gwneud i ddisgyblion deimlo'n anghyfforddus.
Mae gwrandawiad y Cyngor Gweithlu Addysg yng Nghaerdydd, fydd yn penderfynu a fydd Mr Williams yn dal i gael gweithio fel athro, yn parhau.
'Disgyblion yn anghyfforddus'
Clywodd y panel fod y ferch wedi gwneud cwyn am Mr Williams, athro technoleg gwybodaeth yn Ysgol Gyfun Yr Olchfa, Abertawe flwyddyn cyn i ddisgyblion eraill honni ei fod wedi eu "cam-drin".
Dywedodd y dirprwy bennaeth Julian Kennedy fod un bachgen wedi dweud fod Mr Williams wedi fflicio'i glust, ei brocio â phren mesur, a'i daro yn ei wyneb gan adael marc.
"Dywedodd disgybl arall fod Mr Williams wedi dod i gyswllt corfforol â disgyblion, gan eu cosi a'u cyffwrdd," meddai Mr Kennedy.
"Fe wnaeth disgyblion honni eu bod wedi eu gafael nhw 'gerfydd eu bronnau', i ddefnyddio'r derminoleg yn eu datganiad nhw."
Dywedodd athrawes arall, Leah Slowinsky fod yr honiadau wedi dod i'r amlwg wrth iddi ddysgu gwers i ddisgyblion am yr Holocost.
"Roedden ni'n dysgu am sut roedd dioddefwyr yn cael eu trin yng ngwersylloedd crynhoi'r Ail Ryfel Byd. O nunlle fe wnaethon nhw gysylltu hynny gydag athro.
"Dywedodd un ferch nad oedd yn trin disgyblion â pharch. Dywedodd ei fod yn gwneud i ddisgyblion deimlo'n anghyfforddus."
Yn dilyn yr honiadau yn erbyn Mr Williams cafodd ymchwiliad ei lansio ym mis Ebrill 2016 ac fe gafodd yr athro ei wahardd o'i swydd.
Clywodd y gwrandawiad fod ei waharddiad hefyd yn ymwneud â gwallau wrth farcio gwaith cwrs rhai disgyblion.
Mae Mr Williams yn gwadu cyffwrdd bronnau disgyblion a'u cosi, pwyntio pen laser at ddau ddisgybl, ac yn gwadu fod cymhelliant rhywiol i'w weithredoedd.
Ond mae wedi cyfaddef taro bachgen a'i brocio gyda phren mesur, ac uwchlwytho marciau gwaith cwrs oedd ddim yn gywir.