Enfys Nest: Ydy 'baddie' newydd Star Wars yn Gymraes?

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl i'r Ddraig Goch gael ei gweld yn y ffilm Black Panther yn gynharach eleni, mae Cymru'n cael ei chynrychioli unwaith eto yn un o ffilmiau mawr eraill y flwyddyn...

...neu ydy hi?

Ffynhonnell y llun, Starwars.com
Disgrifiad o’r llun,

Enfys Nest: Y 'baddie' yn y ffilm Solo, A Star Wars Story

Mewn gweithdy pell, amser maith yn ôl...

Ydyn, ni gyd wedi clywed bod y Millenium Falcon wedi'i adeiladu'n wreiddiol yn Aberdaugleddau, a nawr mae'r ffilm diweddara', sy'n dwyn enw peilot mwyaf enwog y llong ofod o Star Wars, yn rhoi rheswm pellach i ni bwyntio a dweud: "Mae 'na gysylltiad Cymreig fan'na!"

Boba Fett, Count Dooku, a nawr...

Ar 25 Mai bydd y ffilm Solo: A Star Wars Story yn agor yn y sinemâu dros Brydain a phan fydd y dieithryn yn cael ei henwi gyntaf, bydd sinemâu Cymru'i gyd yn tynnu anadl ddofn mewn sioc.

Môr leidr o'r enw Enfys Nest yw'r cymeriad, ond hyd yn hyn does dim esboniad call am wraidd yr enw.

Disgrifiad o’r llun,

Alden Ehrenreich sy'n chwarae cymeriad Han Solo yn y ffilm newydd...

Ydy awduron sgript y ffilm yn berchen ar dŷ haf yn Nefyn?

Oes yna bennaeth stiwdio yn Los Angeles sydd a'i wreiddiau yng Nghymru ac sydd am ledaenu enw ein cenedl? (Wel oes... ond mae hynna'n stori arall!)

Gyda sicrwydd bydd Cymru'n mabwysiadu Enfys Nest, a phwy â ŵyr... Steddfod blwyddyn nesaf? Gwisg las?

Ddarllenoch chi fe yma gyntaf.