Carcharu gang cyffuriau am gyfanswm o 45 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae 14 o bobl wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o 45 mlynedd dan glo am eu rhan mewn cynllwyn i fewnforio a gwerthu cyffuriau steroid yng ngogledd Cymru.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug y byddai'r criw wedi gallu gwneud elw o filiynau o bunnoedd.
Yn dilyn darganfyddiad gan swyddogion Cyllid a Thollau o barseli o China a Hong Kong wedi'u cyfeirio at gyfeiriadau yng Nglannau Dyfrdwy, Y Fflint a Rhuthun, fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru lansio ymchwiliad i fewnforio cyffuriau.
Clywodd y llys bod gweithredodd y gang yn "soffistigedig" ac yn cynnwys cynhyrchu cyffuriau steroid mewn amryw o leoliadau ac mewn niferoedd mawr.
Y dedfrydau
Fe wnaeth David Jenkins, 37 o'r Fflint (chwe blynedd), Andrew Dodd, 51 o Gonwy (pum mlynedd), a Macauley Dodd, 23 o Henryd (pum mlynedd), gyfaddef cynllwynio i dwyllo, cynhyrchu a chyflenwi cyffur Dosbarth C a chuddio eiddo troseddol.
Cafodd Abbie Roberts, 25 o'r Fflint, Helen Massey, 46 o Shotton a Samantha Fletcher, 47 o'r Fflint, oll eu carcharu am dair blynedd a phedwar mis ar ôl cyfaddef cynllwynio i gyflenwi'r cyffuriau.
Er i Christina Fisher hefyd bledio'n euog i'r cyhuddiad, roedd y barnwr yn derbyn fod ei rôl hi'n llawer llai ac fe gafodd 18 mis o garchar.
Fe wnaeth Joseph Taylor-Hannah, 28 o Huddersfield, gyfaddef i fod â chyffur yn ei feddiant gyda'r bwriad o werthu ac fe gafodd ddedfryd o naw mis o garchar wedi'i ohirio am flwyddyn.
Plediodd Craig Anholm, 47 o Castleford (dwy flynedd ac wyth mis), Joshua Jones, 28 o Castleford (pedair blynedd) a Brian Craig, 63 o Shotton (tair blynedd) yn euog i gyhuddiadau o gynllwyn.
Fe wnaeth Maureen Jenkins, mam 68 oed David Jenkins, gyfaddef un cyhuddiad o gynllwynio i guddio eiddo troseddol a cafodd ei charcharu am 20 mis.
Cyfaddefodd Scott Watson, 36 o Garden City (pedair blynedd a dau fis) a Colin Mark Sullivan, 37 o Benarlâg (dwy flynedd a phum mis), yn euog i gynllwynio i guddio eiddo troseddol.
'Achos difrifol'
Wrth eu dedfrydu dywedodd y Barnwr Huw Rees: "Mae'n nodwedd o'r achos yma ei fod yn cynnwys rhai pobl o gymeriad blaenorol dilychwyn, a rhai pobl aeddfed a gafodd eu temtio i wneud elw heb feddwl am oblygiadau eu gweithredoedd ar eraill.
"Dros y degawd diwethaf mae argaeledd cyffuriau steroid ar y we wedi cynyddu ynghyd â'u cryfder a'u safon.
"Mae hwn yn achos difrifol sydd wedi cael ei ddisgrifio, yn gywir iawn, fel menter droseddol ddrud dros ben."