Mecsico 0-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwyliwch yr uchafbwyntiau: Mecsico 0-0 Cymru

Fe hawliodd dîm ifanc Cymru gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Mecsico yn oriau mân fore Mawrth diolch i waith arwrol gan y golwr Wayne Hennessey.

Fe adawodd y capten, Ashley Williams y cae gydag anaf i'w asennau wedi llai nag 20 munud yn dilyn gwrthdrawiad gydag ymosodwr West Ham, Javier Hernandez.

Bu'n rhaid i'r ymwelwyr ddelio â phwysau gan Mecsico trwy gydol y gêm, o flaen torf o 82,345 yn stadiwm Rose Bowl yn Pasadena.

Daeth asgellwr Caerlŷr, George Thomas a chwaraewr 18 oed Manchester City, Matthew Smith i'r maes i ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r capten, Ashley Williams adael y maes gydag anaf i'w asennau yn yr hanner cyntaf

Roedd Hennessey yn brysur o fewn pum munud gydag ergyd Jesus Manuel Corono, ond capten Mecsico, Hector Herrera oedd â'r cyfle gorau o'r hanner cyntaf wedi 39 munud.

Fe wnaeth ei ergyd gyda'i droed dde orfodi golwr Crystal Palace i gyfeirio'r bêl fodfeddi uwchben y traws.

10 munud i mewn i'r ail hanner daeth ail gyfle i Herrera, gan orfodi arbediad da unwaith eto gan Hennessey.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd criw dethol o gefnogwyr Cymru ymysg y dorf o 82,345 yn stadiwm Rose Bowl

Gyda chwaraewyr allweddol fel Gareth Bale, Joe Allen a James Chester ddim yn y garfan, roedd Cymru wedi teithio i'r Unol Daleithiau gyda charfan ifanc, eithaf dibrofiad.

Er hynny fe wnaeth Ryan Giggs ddechrau gyda thîm cryf yn stadiwm Rose Bowl, tra bod absenoldeb Chester yn golygu bod Chris Mepham yn dechrau ei gêm gyntaf yng nghrys coch Cymru.

Ond fe wnaeth yr amddiffynnwr canol arall, Williams anafu ei asennau wedi llai nac 20 munud, gyda Tom Lockyer yn dod i'r maes wrth i'r capten orfod gadael mewn poen.

Ni wnaeth y newid effeithio ar chwarae Cymru, oedd yn drefnus ac yn berygl yn gwrthymosod diolch i Harry Wilson.

Asgellwr ifanc Lerpwl gafodd y cyfle gorau i Gymru, wrth iddo dorri i mewn o'r asgell dde ac ergydio heibio i'r postyn pellaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Giggs wedi rhoi capiau cyntaf i bum chwaraewr yn y tair gêm ers iddo gael ei benodi

Cafodd dri chwaraewr ifanc - Connor Roberts, Declan John a David Brooks - eu cyflwyno yn ystod hanner amser, wrth i Gymru newid system yn aml.

Er i Mecsico reoli'r chwarae am rannau helaeth, fe wnaeth Giggs barhau i gyflwyno chwaraewyr ifanc, gyda Thomas a Smith yn dod ymlaen yn yr ail hanner.

Mae Cymru bellach wedi rhoi capiau cyntaf i 11 o chwaraewyr yn y pum gêm ddiwethaf - pump o'r rheiny yn y tair gêm ers penodiad Giggs - er bod hyn yn rhannol oherwydd absenoldeb rhai o'r enwau mawr.

Gêm nesaf Cymru fydd croesawu Gweriniaeth Iwerddon i Gaerdydd ym mis Medi, tra bo Mecsico yn herio'r Almaen, De Korea a Sweden yn eu grŵp yng Nghwpan y Byd fis nesaf.

Tîm Cymru

1. Hennessey

2. Gunter (Roberts 45')

6. Williams (Lockyer 21')

5. Mepham

4. Davies

8. King

16. Ledley (John 45')

7. Wilson (Thomas 64')

10. Ramsey

11. Lawrence (Smith 81')

9. Vokes (Brooks 45')