Galw ar Gyngor Powys i ehangu darpariaeth addysg Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Logo Rhieni Dros Addysg Gymraeg

Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn pwyso ar Gyngor Powys i gydio yn y cyfle i ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir yn dilyn ymweliad Eisteddfod yr Urdd.

Yn ol RhAG, mae ymweliad Eisteddfod yr Urdd i Lanelwedd yn cynnig cyfle euraidd i adael gwaddol parhaol ar gyfer ffyniant y Gymraeg yn y sir.

Dywedodd Cadeirydd Cenedlaethol RhAG, Wyn Williams fod "angen dybryd i ymestyn y Gymraeg i bob rhan o'r sir".

"Mae gormod o ardaloedd heb addysg Gymraeg o gwbwl ac mae angen unioni'r cam hwnnw."

Mae Cyngor Powys wedi cael cais am ymateb.

'Galw cynyddol'

Ychwanegodd Mr Williams: "Bydd ehangu'r ddarpariaeth, trwy sefydlu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn torri'r cylch caeth presennol ac yn gweddnewid y tirlun o safbwynt addysg Gymraeg yn y sir, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru i gryfhau dwyieithrwydd a chyfrannu at y nod o gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn erbyn 2050.

Ym Medi 2017 fe agorwyd ysgol Gymraeg newydd yn Y Trallwng, ac mae RHaG yn credu bod y "galw cynnyddol" am addysg Gymraeg a bod "llwyddiant digamsyniol Ysgol Dafydd Llwyd, yn y Drenewydd" yn brawf o hynny.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Bro Hyddgen wedi'i lleoli ar safle hen Ysgol Bro Ddyfi ym Machynlleth

Mae Cyngor Powys eisoes wedi cadarnhau na fydd ffrwd Saesneg Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn cau wedi cyfarfod o'r llywodraethwyr.

Yn ddiweddar fe dderbyniodd rhieni'r ysgol lythyr i ddweud bod y llywodraethwyr wedi cytuno mewn egwyddor i gau'r ffrwd i ddisgyblion newydd.

Mae'r ysgol yn bwriadu gofyn i Gyngor Powys gynnal ymgynghoriad cyhoeddus gyda phobl leol ynglŷn â beth fydden nhw'n hoffi gweld yn digwydd yn y dyfodol.

Ychwanegodd Mr Williams: "Galwn ar y Cyngor i gofleidio gweledigaeth bellgyrhaeddol ar gyfer twf Addysg Gymraeg ac ar gyfer dyfodol hirdymor yr iaith Gymraeg yn y Sir."