Pedwar yn cystadlu am wobr Medal y Dysgwyr
- Cyhoeddwyd
Prif seremoni ar ail ddiwrnod y cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd fydd Medal y Dysgwyr, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y pnawn.
Mae tair merch ac un bachgen yn cystadlu am y fedal eleni, Alys Williams, Jessica Harvey, Jonas Rajan a Rebecca Morgan.
Yn ystod y dydd mae'r beirniad wedi bod yn dilyn y pedwar o amgylch y maes.
Fel rhan o dasgau'r dydd bu'n rhaid i'r pedwar annerch cynhadledd i'r Wasg a gwneud gwahanol sialensiau o amgylch y maes.
Bu Arwel Evans gohebydd BBC Cymru Fyw yn eu holi.
O Lanbrynmair ym Mhowys y daw Jessica sydd yn 18 oed.
Dywedodd ei bod wedi ei hysbrydoli'n fawr gan ei hathrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Hyddgen a roddodd hyder iddi siarad Cymraeg.
Mae hi yn astudio cwrs Gofal Plant yng Ngholeg Ceredigion, Aberystwyth, gyda'r nod o weithio gyda phlant ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Dwi'n dweud fod i gyd o'r athrawon wedi fy helpu a phethau fel yr Urdd hefyd, a helpu drwy ffeindio pobl eraill sy'n siarad Cymraeg.
"Dwi eisiau bod yn athrawes, a dwi eisiau ysbrydoli plant y genhedlaeth nesaf i siarad Cymraeg," meddai.
Mabinogi yn ysbrydoli
Yn ôl Alys, sydd hefyd yn 18 oed ac yn astudio Cymraeg, Cemeg a Hanes yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, ei bod wedi gwirioni ar ddiwylliant Cymraeg ac wedi ei hysbrydoli yn arbennig gan chwedlau'r Mabinogi.
Dywedodd fod y Gymraeg wedi agor y drws iddi at gerddoriaeth, barddoniaeth a drama, ac erbyn hyn ei bod yn derbyn gwersi canu drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae llawer o fathau gwahanol o Gymraeg, mae Cymraeg rhywun o'r gogledd yn wahanol iawn i rywun o'r de a hefyd mae'n ffurfiol ac yn anffurfiol."
Mewn ymateb i'r cwestiwn a allai'r Cymry Cymraeg wneud fwy i helpu dywedodd:
"Na ddim i ddweud y gwir, weithiau gyda'r Gymraeg ffurfiol iawn mae'n anodd, ond na, mae rhan fwyaf yn bositif."
Dysgu am ddiwylliant
Cafodd Jonas, syn 16 oed, ei eni yn Portsmouth ond ei fagu ym Mhort Talbot.
Mae'n dweud fod siarad Cymraeg yn rhan bwysig iawn o fod yn Gymro ac yn help iddo ddod i adnabod diwylliant Cymraeg.
Er ei fod yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol mae hefyd yn defnyddio Duolingo i'w helpu gyda'r iaith.
"Dwi'n mwynhau siarad Cymraeg gyda mam a dwi'n meddwl ei bod yn bwysig.
"Hefyd cefais fy ngeni yn Lloegr ond fy magu ym Mhort Talbot a dwi'n teimlo fy mod yn gallu mwynhau diwylliant Cymru drwy ddysgu Cymraeg.
"Mae'n bwysig bod dysgwyr yn gallu dysgu mwy am ein diwylliant," meddai.
'Unigryw i Gymru'
Mae Rebecca yn 24 oed ac yn dod o deulu di-Gymraeg ym Mhencoed, ger Pen-y-bont.
Derbyniodd radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Abertawe ac erbyn hyn mae hi'n gweithio fel athrawes yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd.
"Dwi'n cofio bod yn y chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd Saesneg a just y ffordd roedd yr athrawon yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd o ni yn meddwl dwi moyn siarad â rhywun yn Gymraeg.
"Mae'n unigryw i Gymru ond dyle ni siarad Cymraeg achos 'dy ni'n dod o Gymru a dyle mwy o bobl siarad Cymraeg," meddai.