Ras hwylio enfawr yn dod i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae un o rasys hwylio mwya'r byd, Volvo Ocean Race, dolen allanol, wedi cyrraedd Caerdydd - y tro cyntaf erioed i'r ras ymweld â Phrydain.

Mae'n cael ei ystyried yn un o uchafbwyntiau'r byd hwylio. Eleni, mae saith cwch yn rasio 46,00 milltir fôr o amgylch y byd, gan alw mewn 12 dinas ar draws chwe chyfandir, mewn naw mis.

Turn the Tide of PlasticFfynhonnell y llun, Getty Images

Bore Mawrth, 29 Mai, hwyliodd y cwch Turn the Tide of Plastic i borthladd Caerdydd yn y 6ed safle, gyda'r Ddraig Goch yn cwhwfan yn falch arno, gan fod unig Gymro Cymraeg y gystadleuaeth, Bleddyn Môn, yn rhan o'r criw.

Cafodd Bleddyn, sy'n wreiddiol o Amlwch, wybod ei fod wedi cael lle i weithio ar y cwch fis Awst diwethaf, ac wedi bod yn hwylio arno ers mis Hydref.

Disgrifiad,

Teimladau Bleddyn Môn wrth hwylio yn ôl i Gymru

Dywedodd fod cael cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn arbennig iawn, a bod y gymal ddiweddaraf, o Newport, UDA i Gaerdydd yn rhywbeth mae wedi edrych ymlaen ato o'r dechrau, gan ei fod yn cael dod yn ôl i'w wlad enedigol.

Yn ôl cyfrif Twitter cwch Turn the Tide of Plastic, nid yw ymdrechion Bleddyn i ddysgu Cymraeg i'w gyd-griw, dolen allanol yn mynd yn dda iawn, ond mae dwy gymal arall ar ôl cyn i'r ras orffen yn yr Hague, yr Iseldiroedd, felly mae yna dal ychydig o amser i ymarfer!

Ras rhwng y Cymry

Nid Bleddyn yw'r unig Gymro yn y ras - cafodd Trystan Seal, sydd yn hwyllio ar Sun Hung Kai/Scallywag, ei fagu yng Ngheinewydd.

Mae cael hwylio i Gaerdydd yn arbennig iawn iddo yntau hefyd, ac roedd yn edrych ymlaen fod ei deulu yn dod i'w groesawu nôl i Gymru

Mae Bleddyn ac yntau yn gystadleuol, meddai Trystan, a'r ddau eisiau bod y Cymro cyntaf i gyrraedd Caerdydd.

Yn anffodus i Trystan, cwch Bleddyn aeth a hi, gyda chwch Trystan yn y safle olaf.

Bleddyn a TrystanFfynhonnell y llun, Sun Hung Kai Scallywag/YouTube
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau Gymro yn ffrindiau, er yr elfen gystadleuol!

Mae'r pentref rasio mawr wedi ei leoli ar y morglawdd ym Mae Caerdydd, sef cartref y ras enfawr o 27 Mai tan 10 Mehefin, cyn i'r morwyr adael am Gothenburg, Sweden ar gyfer y cymal nesaf.