'Ail gyfle' i Steffan Lewis AC wedi diagnosis canser

  • Cyhoeddwyd
Steffan Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Steffan Lewis wybod fod ganddo ganser y coluddyn ym mis Rhagfyr

Mae Aelod Cynulliad sy'n dioddef o ganser y coluddyn yn dweud ei fod yn "lwcus i fod yn fyw" a bod meddygon wedi "cynnig ail gyfle" iddo.

Daeth Steffan Lewis, 33, yn agos iawn i golli'r frwydr â chanser yn ôl ym mis Chwefror, cyfnod lle'r oedd o yn "teimlo ei hun yn llithro".

Bydd ACau ac ASau nawr yn cymryd rhan mewn taith gerdded i godi arian i Ysbyty Felindre yn ei enw ef.

Dywedodd yr AC Plaid Cymru ei fod "wedi syfrdanu â'r gefnogaeth y mae pobl yn fodlon ei roi".

Cafodd y daith ei threfnu gan Nia Davies, chwaer Steffan, fel rhan o'i ddathliadau pen-blwydd yn 34.

'Achub fy mywyd'

Daeth Mr Lewis i wybod fod ganddo ganser pedwerydd cyfnod ym mis Rhagfyr y llynedd.

Bydd yn parhau gyda'r driniaeth ddydd Mercher, ond dywedodd wrth y BBC ei fod wedi bod yn sâl iawn yn ddiweddar.

"Ym mis Chwefror d'es i yn agos iawn i golli fy mywyd, roedd fy afu i yn methu, a ro'n i'n teimlo fy hun yn llithro," meddai Mr Lewis.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r daith gerdded yn rhan o ddathliadau Mr Lewis yn 34 oed

Yn ôl Mr Lewis, dim ond trwy "arbenigedd" staff Ysbyty Felindre cafodd ei fywyd ei achub ar y pryd.

Ychwanegodd: "Mae hi'n bwysig i mi allu meddwl yn ôl i faint mor lwcus 'i fi i fyw, ond ar yr un pryd meddwl am ba mor agos o'n i i ddim goroesi."

Lleihau oedran sgrinio?

Mae Mr Lewis yn argymell i ddynion ifanc i fynd i gael "MOT gyda'r GP" os oes unrhywbeth sydd "ddim cweit yn iawn" gyda'u hiechyd.

Mae'n galw hefyd ar y llywodraeth i ystyried lleihau'r oedran sgrinio canser a'u hannog i wneud mwy i gryfhau ymwybyddiaeth o'r clefyd ymysg dynion ifanc.

Disgrifiad o’r llun,

Nia Davies, chwaer Steffan Lewis, sydd yn gyfrifol am drefnu'r daith gerdded

Bydd y daith gerdded i godi arian ar gyfer Ysbyty Felindre yn cael ei chynnal ar 14 Gorffennaf.

Dywedodd yr ysbyty y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cleifion a chyfrannu at brosiectau ymchwil.

Cafodd Nia Davies, chwaer Steffan, y syniad "arbennig" yma ar ôl iddi gael ei hysbrydoli gan feddylfryd gadarnhaol ei brawd.

Dywedodd Nia, 17, fod Steffan wedi datgan bwriad i godi arian i'r ysbyty dim ond wythnos ar ôl derbyn y diagnosis.

Mae'r daith, medd Nia, yn ffordd o "godi ysbryd" ei brawd ac yn ffordd o "godi ymwybyddiaeth o gancr y coluddyn".