Abertawe'n cytuno i benodi Graham Potter yn rheolwr
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi eu bod wedi cytuno termau gyda Graham Potter i fod yn rheolwr newydd y clwb.
Mae Potter, sy'n 43 oed, yn rheolwr ar Ostersunds ar hyn o bryd, a dywedodd Abertawe eu bod wedi dod i gytundeb â'r clwb yn Sweden am faint o arian y byddan nhw'n ei dderbyn am golli eu rheolwr.
Fe fydd Potter yn cymryd lle Carlos Carvalhal fel rheolwr newydd yr Elyrch wedi i'r clwb ddisgyn o'r Uwch Gynghrair.
Bydd dau aelod o staff cynorthwyol Potter yn Ostersunds, Billy Reid a Kyle Macauley, hefyd yn ymuno â thîm hyfforddi Abertawe.
Mae disgwyl i'r tri deithio i dde Cymru ddechrau'r wythnos nesaf i arwyddo'n swyddogol.
Rheolwr ers 2010
Mae Potter, sy'n wreiddiol o Solihull yn Lloegr, wedi chwarae dros 300 o gemau cystadleuol i nifer o glybiau yn Lloegr gan gynnwys Southampton a West Brom.
Fe gymrodd yr awenau fel rheolwr Ostersunds yn Rhagfyr 2010, pan oedd y clwb ym mhedwaredd haen pêl-droed yn Sweden.
Llwyddodd i ennill dau ddyrchafiad yn ei ddau dymor cyntaf gyda'r clwb, cyn cyrraedd y brif adran yn 2016.
Fe lwyddodd y clwb i gael rhediad da yng Nghynghrair Europa y tymor diwethaf hefyd, cyn iddyn nhw gael eu trechu gan Arsenal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2018
- Cyhoeddwyd13 Mai 2018
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018