Prinder trenau'n canslo gwasanaeth Dyffyn Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau trên ar hyd lein Dyffryn Conwy wedi cael eu canslo dros dro am fod mwy o drenau na'r arfer angen cael eu hatgyweirio ar yr un pryd.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru fod teithiau wedi eu hatal rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog am nad oes digon o gerbydau.
Mae'r cwmni wedi trefnu gwasanaeth bws yn lle'r 11 o drenau sy'n cludo teithwyr ar hyd y lein 27 milltir o hyd.
Mae Arriva wedi ymddiheuro i deithwyr am ganslo'r gwasanaeth arferol.
Dywedodd cyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid y cwmni, Bethan Jelfs eu bod yn "gweithio'n eithriadol o galed" i gael yr holl drenau'n ôl ar y cledrau cyn gynted â phosib.
Cwmni KeolisAmey fydd yn gyfrifol am y gwasanaeth o fis Hydref ymlaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018