Sylwadau ar-lein yn rhoi 'pwysau annheg' ar athrawon

  • Cyhoeddwyd
DynesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r strategydd cyfryngau cymdeithasol, Sarah Hoss, yn galw ar ysgolion i ymwneud yn well â rhieni ar-lein

Mae cyhuddiadau a bygythiadau ar-lein gan rieni yn rhoi "pwysau annheg" ar athrawon, yn ôl undeb.

Fe wnaeth Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru (ASCL) ddisgrifio'r arfer fel "achos llys ar y cyfryngau cymdeithasol", a bod angen ymchwilio'n gywir i unrhyw broblemau.

Ond dywedodd strategydd cyfryngau cymdeithasol mai'r unig beth mae'r mwyafrif ei eisiau yw i athrawon ymwneud â rhieni ar-lein.

Fe wnaeth undeb yr NEU annog rhieni i gyfeirio eu pryderon at ysgolion yn uniongyrchol.

'Sylwadau bygythiol'

Ychwanegodd yr undeb bod athrawon yn "wynebu heriau rheolaidd" yn ymwneud â rhieni'n gwneud sylwadau negyddol amdanynt ar-lein.

Dywedodd llefarydd: "Yn aml mae'n achos o gamddealltwriaeth ar ran y rhieni, all gael ei egluro'n hawdd, ond mae sibrydion ar y cyfryngau cymdeithasol yn gan ei gwneud yn sefyllfa ymfflamychol."

Ychwanegodd bod ysgolion yn cael eu cynghori i gael "polisi drws agored", ble mae rhieni'n gallu codi pryderon yn uniongyrchol gyda'r ysgol i geisio canfod datrysiad.

Dywedodd bod sylwadau ar-lein yn amrywio o fân faterion i gyhuddiadau llawer mwy difrifol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer yn troi at Facebook yn hytrach na chyfeirio cwynion at yr ysgolion yn uniongyrchol, medd yr NEU

Fe wnaeth rhywun fygwth trais yn erbyn Ann Fox - cyn-bennaeth ysgol gynradd ym Mhen-y-bont - mewn sylw ar dudalen Facebook yr ysgol.

"Roedden nhw'n sylwadau difrïol amdana i. Roedd rhai yn fygythiol eu natur, ac yn bygwth gwneud niwed i mi," meddai.

"Maen nhw'n eich gadael chi'n teimlo'n fregus, gydag unman i'w droi."

Dywedodd gan fod y sylwadau'n cyfeirio at "y pennaeth", yn hytrach na'i henwi hi yn benodol, bod yr heddlu'n gallu gwneud dim.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cymryd cam yr ôl a meddwl 'efallai bod hyn ychydig yn annheg', ond dyw'r bobl yma ddim yn gwneud hynny. Maen nhw'n mynd yn syth at y cyfryngau cymdeithasol," meddai Ms Fox.

'Angen ymchwiliad cywir'

Dywedodd cyfarwyddwr ASCL Cymru, Tim Pratt, bod gwefannau cymdeithasol yn rhy gyhoeddus, a bod cwynion ar-lein yn annerbyniol.

"Mae'n bwysau annheg," meddai.

"Mae'n achos llys ar y cyfryngau cymdeithasol, yn hytrach nag ymchwiliad cywir, gofalus sy'n ceisio datrys y problemau."

Ond dywedodd y strategydd cyfryngau cymdeithasol, Sarah Hoss, bod ysgolion yn aml angen ymwneud yn well â rhieni ar-lein.

"Dwi'n meddwl bod ysgolion yn tueddu i wneud cyhoeddiadau'n unig," meddai.

"Rydych chi'n gweld yn aml, ysgol sydd â thudalen Facebook anhygoel, sy'n dweud yn ddyddiol pa mor wych yw'r ysgol, yr holl bethau maen nhw'n ei wneud a pha mor llwyddiannus ydyn nhw.

"Ond dydyn nhw ddim yn gadael i chi, fel rhiant, wneud sylw. Felly rydych chi'n cael eich gadael allan o'r drafodaeth."