Gwaith atgyweirio yn cau rhan o bier Bangor am naw mis

  • Cyhoeddwyd
Pier BangorFfynhonnell y llun, Christopher Furlong/ Getty Images

Bydd atyniad poblogaidd yng ngogledd Cymru yn cau yn rhannol am naw mis o ganlyniad i bryderon am iechyd a diogelwch.

Mae Cyngor Dinas Bangor wedi cadarnhau y bydd gwaith atgyweirio yn digwydd ar bier y ddinas ar ôl i adroddiad gan beirianwyr godi pryderon am ddiogelwch.

Ni fydd modd i'r cyhoedd gael mynediad at ben pellaf y pier ble mae'r Pafiliwn Tê o 4 Mehefin.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Bangor: "O ganlyniad i iechyd a diogelwch ac ar ôl adroddiad gan beirianwyr adeiladu, bydd yr ardal sy'n cael ei adnabod fel Pierhead ar gau o 4 Mehefin gan fod yr adeiledd yn beryglus i'r cyhoedd.

"Yn anffodus bydd y Pafiliwn Tê ar gau nes bydd y gwaith wedi'i gwblhau, gyda'r posibilrwydd i hynny gymryd naw mis."

Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i waith tebyg gael ei gwblhau ar y pier oedd yn 1986

Fe agorwyd y pier yn 1896 ac mae'r atyniad yn ymestyn allan i afon Menai.

Mae disgwyl i'r gwaith adnewyddu gostio £1m ac mae'r arian wedi dod o gronfeydd cyfalaf Cyngor Dinas Bangor.

Y tro diwethaf i waith tebyg gael ei gwblhau ar y pier oedd yn 1986.