Cyn-blismon o Wynedd yn brathu ei rhieni mewn tymer

  • Cyhoeddwyd
Elliw JonesFfynhonnell y llun, Bellis Media

Mae cyn-swyddog heddlu o Wynedd wedi cael ei dedfrydu ar ôl ymosod ar ei rhieni pan oedd hi mewn tymer.

Fe wnaeth Elliw Jones, 27 oed o Lanwnda, daro ei mam a brathu'i rhieni yn y digwyddiad ar 25 Mai.

Clywodd Llys Ynadon Caernarfon fod Jones wedi troi at yfed ar ôl canfod corff oedd yn pydru.

Fe wnaeth hi adael Heddlu'r Gogledd yn ddiweddarach oherwydd ei bod yn dioddef o PTSD.

Clywodd yr ynadon fod Jones wedi'i chanfod yn euog o yfed a gyrru ym mis Ionawr 2017, a'i bod bellach yn derbyn triniaeth.

Wrth amddiffyn, dywedodd Liz Jones fod y diffynnydd wedi'i heffeithio'n wael ar ôl dod ar draws corff marw tra'n gweithio yn ardal Caernarfon a Blaenau Ffestiniog.

Fe wnaeth Jones bledio'n euog i fod yn feddw ac afreolus, ac o ymosodiad cyffredin, ac fe gafodd ddedfryd o 100 awr o waith di-dâl.

Cafodd hefyd orchymyn cymunedol 12 mis, a bydd yn rhaid iddi dalu £225 mewn costau.