Y dyn sy'n gwneud trawiad ar y galon yn ddoniol
- Cyhoeddwyd
Cafodd Aled Richards drawiad ar y galon pan oedd yn 44 oed... felly, wrth gwrs, penderfynodd wneud sioe stand-yp yn sôn am y profiad.
Soniodd ar raglen Aled Hughes fore Llun, 4 Mehefin, pam ei fod wedi penderfynu mynd ati i drafod rhywbeth mor ddifrifol mewn modd mor ddoniol.
"Doedd dim syniad gen i mod i'n debygol o gael trawiad y galon, nac yn cael trawiad ar y galon pan ges i e," meddai.
"O edrych yn ôl, mi roedd 'na arwyddion, ond gan mod i'n cyfri' fy hunan yn ifanc, 'do'n i'm yn meddwl am eiliad bod gen i broblem 'da nghalon.
"Roedd y profiad yn un brawychus, ond yn sgil hynny roedd lot o bethau doniol iawn yn digwydd, ac yn aml mae hiwmor yn codi o rai o'r sefyllfaoedd mwya' tywyll.
"Fel pan o'n i yn yr ambiwlans ar y ffordd i'r ysbyty, a'r ffôn yn canu yn fy mhoced i a finne'n ei ateb a thrio dweud fod popeth yn iawn! Wedyn ges i gynnig fry-up i frecwast, jest ar ôl i mi fynd i mewn i'r ysbyty! Felly 'nes i benderfynu defnyddio peth yn fy stand-yp i."
Mae Aled wedi recordio rhaglen ar gyfer cyfres Straeon Bob Lliw BBC Radio Cymru - Sioc... ges i harten! Ynddo mae'n sôn am ei brofiadau, ac yn sgwrsio â chyfaill sydd wedi mynd drwy'r un peth, ac arbenigwyr yn y maes. Mae yna hefyd flas o'i sioe stand-yp.
"Mae'n ddifrifol iawn, ac mae yna negeseuon pwysig ynddo. Fel dynion, ry'n ni'n wael am edrych ar ôl ein hiechyd yn gyffredinol.
"Felly mae gallu cyfleu'r negeseuon yna mewn ffordd ffraeth a doniol yn ffordd o gael y neges drosodd mewn ffordd hwyliog."