Cyfarfod cyhoeddus yn Llanelli i drafod pla pryfed

  • Cyhoeddwyd
pryfed
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth un o'r trigolion lleol, Judith Turnell, ddod â bag o bryfed gyda hi i'r cyfarfod

Roedd dros 150 o bobl yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus nos Lun i drafod pla o bryfed sydd wedi bod yn poenydio ardal Llanelli.

Mae trigolion wedi bod yn cwyno bod cannoedd o bryfed tŷ cyffredin wedi bod yn canfod eu ffordd i mewn i'w cartrefi dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd nifer o bobl eu bod wedi bod yn dioddef o salwch a symptomau dolur rhydd ers i'r pryfed gyrraedd.

Cafwyd rhai sylwadau blin yn y cyfarfod wrth i drigolion gwyno am ddiffyg gweithredu a chyfathrebu gan yr awdurdodau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 150 o bobl yn bresennol yn y cyfarfod

Fe wnaeth Judith Turnell, sy'n byw yng Nghwrt Dolau, ddod â bag o bryfed gyda hi i'r cyfarfod.

"Mae'n afiach, mae'n fudr, dwi wedi cael llond bol a dwi'n flin am y peth," meddai.

"Mae pawb yn pasio'r cyfrifoldeb ymlaen. Nid iawndal 'dyn ni'n chwilio am, ond datrysiad sy'n cael gwared arnyn nhw."

Dywedodd arbenigwr difa pla annibynnol wrth y cyfarfod ei fod yn amau mai dim ond dechrau'r broblem oedd hyn.

"Mae wedi bod yn gynnes, ond unwaith mae'r pryfed yn setlo fe fyddan nhw'n dodwy rhagor o wyau," meddai Chris Dyer o ARI Pest Control and Wildlife Management.

"Os yw hi dal yn gynnes ym mis Awst, fe fyddan nhw nôl ac maen nhw'n debygol o fod hyd yn oed yn waeth."