Cairns: Ffigyrau ariannol morlyn Abertawe yn 'ofnadwy'

  • Cyhoeddwyd
MorlynFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r morlyn yn gallu darparu pŵer i 120,000 o dai pe bai'n cael ei gymeradwyo

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi mynegi pryder am gost cynllun morlyn Bae Abertawe, gan ddweud bod "y ffigyrau yn ofnadwy".

Mewn e-bost sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, dywedodd Alun Cairns y byddai'n costio "dwywaith pris niwclear".

Does dim penderfyniad wedi'i wneud eto, ond mae adroddiadau y bydd y cynllun yn cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU yr wythnos hon.

Mae cadeirydd Tidal Lagoon Power wedi mynnu bod y dechnoleg yn gystadleuol â phŵer niwclear a systemau ynni adnewyddol eraill o safbwynt ariannol.

'Rhaid bod yn fforddiadwy'

Dywedodd Swyddfa Cymru bod yr e-bost yn ei gwneud yn amlwg bod Mr Cairns wedi cefnogi'r prosiect.

Mae'r llywodraeth yn gyson wedi gwrthod datgan eu cefnogaeth i'r prosiect gwerth £1.3bn, gan ddweud bod "rhaid iddo fod yn fforddiadwy".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Cairns bod datblygwr eraill "â chynlluniau tebyg, sy'n costio llawer yn llai"

Yn yr e-bost sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, dywedodd Mr Cairns: "Does dim penderfyniad wedi'i gymryd eto ac rydw i wedi bod o blaid y cynllun o'r dechrau, ond mae'r ffigyrau yn ofnadwy.

"Dwywaith pris niwclear, heb ddisgwyliad o wneud unrhyw arbedion sylweddol. Rydyn ni'n siarad â datblygwr eraill sydd â chynlluniau tebyg, sy'n costio llawer yn llai.

"Ry'n ni hefyd yn edrych ar ddarpariaeth niwclear yng Nghymru, fyddai'n creu 10 gwaith cymaint o swyddi adeiladu a mwy na 1,000 yn rhagor pan yn weithredol."

Ychwanegodd hefyd bod pryder y byddai'r morlyn yn achosi i fwd gasglu ar yr arfordir.

Ffynhonnell y llun, TLP
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiadau y bydd y morlyn yn cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU yr wythnos yma

Ar y Post Cyntaf fore Mawrth, gwrthododd Mr Cairns mai dyma oedd diwedd y prosiect, ond bod angen dangos gwerth am arian.

"Bydde neb yn diolch i ni os bydde ni'n cefnogi unrhyw gynllun sydd ddim yn rhoi gwerth arian i'r trethdalwyr..." meddai.

Gwrthododd hefyd ei fod yn ergyd arall i Gymru yn dilyn y penderfyniad i beidio trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, gan ddweud bod cyhoeddiad Wylfa Newydd a bargen ddinesig Bae Abertawe yn dangos bod buddsoddi yng Nghymru yn "flaenoriaeth".

'Pryderon' am gost ynni

Dywedodd Tidal Lagoon Power (TLP) yr wythnos ddiwethaf eu bod wedi cynnig cwrdd â gweinidogion "sawl gwaith" i drafod y pris y byddai Llywodraeth y DU yn ei dalu am ynni o'r morlyn llanw.

Mae cadeirydd Tidal Lagoon Power yn mynnu bod y dechnoleg yn gystadleuol â phŵer niwclear a systemau ynni adnewyddol eraill o safbwynt ariannol.

Dywedodd Keith Clarke bod angen ystyried costau cynllun Bae Abertawe dros gyfnod hir, ond ychwanegodd nad oedd y cwmni wedi gallu trafod â Llywodraeth y DU ers tro.

Ychwanegodd nad oedd modd cymharu'r ddau opsiwn, a bod angen ystyried ynni llanw yn rhan o gymysgedd o ffynonellau ynni at y dyfodol.

"Gallwn ni fod yn cynhyrchu ynni o fewn pedair blynedd. Mae gyda ni ganiatâd cynllunio sy'n gyfredol yn Abertawe," meddai.

"Os ydy'r llywodraeth wir eisiau edrych ar hyn, mae angen strategaeth hir dymor."

'Cefnogi'r cynllun'

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Mae'r e-bost yn gwneud yn amlwg bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cefnogi'r cynllun.

"Mae hefyd yn codi pryderon am gost yr ynni o'r morlyn llanw, sydd wedi cael cyhoeddusrwydd sylweddol."

Ddydd Llun, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod nhw'n ystyried cyfrannu'n ariannol at orsaf niwclear arfaethedig Wylfa Newydd ac y byddan nhw'n cyfarfod â Hitachi i drafod y buddsoddiad.