Posteri Cymraeg y 19eg ganrif
- Cyhoeddwyd
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dolen allanol yn digideiddio miloedd o ddogfennau a phapurau er mwyn eu gwneud ar gael ar wefannau am flynyddoedd i ddod.
Mae Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol y llyfrgell, wedi casglu nifer o bosteri a thaflenni Cymreig sy'n dyddio o'r 19eg ganrif ynghyd, a'u huwchlwytho i Wikipedia, dolen allanol.
Dyma rai sydd yn rhoi cipolwg diddorol ar fywyd yn Nghymru Gymraeg yr 1800au.

"Mae'r werin 'di'i magu ar datws drwy'u crwyn" oedd cân Hogia'r Wyddfa, ac mae'r poster yma, o 1862, yn profi fod yna fynd mawr ar y 'Tato o'r Ywerddon' yn ardal Llangrannog

Tybed ai cynlluniau a newidiodd, neu a benderfynodd y cwmni yma ailgylchu posteri yn gwerthu lle ar long o Aberteifi i New Brunswick, Canada ym mis Ebrill 1820?

'Dyw rheolau treth incwm erioed wedi bod yn syml

Diflannodd 'Caseg Wineu-goch' John Philip ym mis Medi 1818. Mae'n cynnig gini o wobr i unrhyw un all ei dwyn yn ôl iddo, ond mae'r llun o ddyn yn crogi yn awgrymu na fyddai'n hapus iawn os yw'n dod i wybod pwy a ladratodd y gaseg yn y lle cynta'...

Dyma boster i nodi fod cwmni S Rooney Grant & Co o 'Fanchester' wedi mynd i'r wal - y Rhyfel Cartref yn America sydd yn cael ei feio. Diddorol fod y poster yn un dwyieithog

Er fod nifer wedi addo i Lewis Pugh Pugh eu bod am bleideisio drosto yn Etholiad Cyffredinol 1880, roedd eisiau sicrhau eu bod yn gwybod yn union sut i fwrw eu pleidlais. Mae'n rhaid fod y taflenni yma wedi gweithio - ef oedd Aelod Seneddol Ceredigion o 1880 tan 1885

Mae'n siŵr fod beirdd a cherddorion ardal Tremadog wedi heidio i'r eisteddfod yma yn 1810

Roedd E Morgan eisiau hysbysu trigolion Machynlleth ei fod wedi adnewyddu ei stoc o ddefnyddiau a nwyddau yn ei siop ddillad a groser ar Stryd Maengwyn

Collodd Eleanor Jones a'i theulu druan eu holl eiddo a'u cartref mewn tân yn 1864. Dyma gais i'w 'cymdogion a cydwladwyr Cristionogol' i roi arian iddi i'w helpu yn ôl ar ei thraed

Poster hanfodol ar gyfer unrhyw ysgol - cafodd ei argraffu gan E Williams, Aberystwyth. Diddorol nodi nad yw 'Rh' yn cael ei ystyried yn rhan o'r wyddor yma, a thybed beth yw arwyddocâd nodi 'yr egwyddor blith-draphlith'?
Hefyd o ddiddordeb