Yr heddlu'n parhau i amgylchynu dyn 'â machete'

  • Cyhoeddwyd
Tredegar
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu Gwent yn parhau i amgylchynu'r adeilad fore Mercher

Mae'r heddlu yn parhau y tu allan i hen adeilad gwag yn Nhredegar, dros 24 awr ar ôl iddyn nhw gael eu galw yn sgil adroddiadau bod dyn â machete yno.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 08:45 fore Mawrth.

Dywedodd llygad dystion bod dyn wedi'i weld yn taflu cerrig o do yr hen adeilad ar Stryd y Bont.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llygad dystion bod y dyn wedi'i weld yn taflu cerrig o do'r hen adeilad

Er bod yr heddlu dal yno maent wedi lleihau eu presenoldeb oherwydd pryder am gyflwr yr adeilad.

"Rydyn ni hefyd yn credu y gallai cael nifer o swyddogion yno fod yn rhoi'r dyn mewn perygl, oherwydd peryglon amlwg yr adeilad," meddai'r Uwcharolygydd Glyn Fernquest.

Ddydd Mawrth cafodd y llu eu galw yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad car ar Ffordd Attlee yn y dref, gyda'r alwad hefyd yn dweud bod dyn gyda machete.

Dywedodd tyst fod y dyn "wedi rhedeg i mewn i'r hen adeilad cyfagos ac yna fanno mae wedi bod ers hynny".