Gorymdeithio drwy Gaerdydd i gofio pleidlais i ferched
- Cyhoeddwyd

Mae menywod o bob oed wedi bod yn cyd-gerdded yng Nghaerdydd a chreu "baner dorfol" i nodi 100 mlynedd ers i ferched gael yr hawl i bleidleisio.
Yn ôl y trefnwyr y bwriad yw creu'r "celf byw" yn y brifddinas, gyda digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn Llundain, Caeredin a Belfast.
Cyn y daith - sydd tua dwy filltir o hyd - cafodd y rhai sy'n cymryd rhan sgarff werdd, wyn neu fioled i'w gwisgo er mwyn creu rhubanau o liw.
Dyma oedd lliwiau gwreiddiol y swffragetiaid.

Yr orymdaith yn gweithio'i ffordd drwy Gaerdydd

Bu menywod o bob oed a chefndir yn cymryd rhan yn yr orymdaith
Yn ogystal fe wnaeth nifer o grwpiau ddod â baneri eu hunain gyda negeseuon gwahanol arnynt.
Mae rhwng 10 a 15 o grwpiau yng Nghymru wedi creu baneri â llaw gydag artistiaid lleol gan gynnwys Oriel Myrddin, Theatr Clwyd, Cymorth i Ferched Cymru a Chanolfan Gelfyddydol Aberystwyth.
Yn dilyn yr orymdaith dywedodd un o'r trefnwyr, Elin Rees: "Mae wedi bod yn ddiwrnod llwyddiannus iawn.
"Mae wedi bod yn hyfryd gweld y piws, gwyn a gwyrdd yn dod heibio'r castell gyda phawb yn cael amser mor dda i nodi achlysur mor bwysig.
"Mae menywod o bob oed a chefndir wedi dod at ei gilydd heddiw i ddathlu ac i greu hanes."

Nid pawb oedd yn gorymdeithio ar droed!

Fe wnaeth nifer o grwpiau greu baneri ar gyfer yr orymdaith

Shaimaa Osman, Sahar Al-Faifi a Husna Hossain yn dal baner i ddangos amrywiaeth menywod Mwslemaidd
"Pwrpas y baneri yma yw bod e'n rhywbeth i efelychu'r gwaith o'dd y suffragettes cynnar yn arfer 'neud a'r baneri ro'n nhw yn creu," meddai Catrin Owen o gwmni Artichoke wrth BBC Cymru Fyw.
"Ond hefyd mae'n rhywbeth visual i ddangos beth mae'n meddwl i fod yn fenyw neu'n ferch heddiw ym Mhrydain."
Cwmni Artichoke mewn partneriaeth â Gŵyl y Llais a Chanolfan Mileniwm Cymru sy'n cynhyrchu'r digwyddiad am ddim, ac 14-18 NOW sydd wedi'i gomisiynu.

Efallai o ddiddordeb...

Fe wnaeth yr orymdaith ddechrau y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd, gan orffen ym Mharc Bute, gydag adloniant ar hyd y ffordd gan gynnwys corau a bandiau pres.
Yn ôl Ms Owen mae'n bwysig cynnal digwyddiad o'r fath i ddiolch am yr hyn mae menywod yn y gorffennol wedi ei wneud, a hefyd ystyried beth yw'r sefyllfa heddiw.

Mae'n ganrif ers i fenywod gael yr hawl i bleidleisio ym Mhrydain

Yn ôl Catrin Owen mae'r digwyddiad yn gyfle i ystyried beth mae'n golygu i fod yn ferch mewn cymdeithas heddiw
"Mae'n bwysig i ni fel tîm cynhyrchu i greu rhywbeth i ddathlu ond hefyd creu moment i feddwl am faint o waith sydd dal i'w wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod gyda menywod hawliau cyfartal ym Mhrydain, nid jyst yn ymwneud gyda phleidleisio ond hawliau bob dydd."
Ei gobaith yw y bydd merched yn dod at ei gilydd.
"Fi'n credu yn y flwyddyn ddiwethaf gyda symudiadau Me Too a Time's Up a gweld gymaint o broblemau sydd dal yn wynebu menywod heddiw, mae wir yn bwysig bod 'na rhywbeth i uno menywod a rhoi cyfle i ni ddathlu ond hefyd trio gwella pethau."


Bydd lliwiau'r orymdaith yn adlewyrchu'r lliwiau gafodd eu defnyddio gan y swffragetiaid cynnar
Mae nifer o fenywod amlwg yn llysgenhadon yn yr orymdaith, gan gynnwys yr academydd a chyn bêl-droediwr Laura McAllister, y gantores Lisa Jên a'r newyddiadurwr a darlledwr Carolyn Hitt.
Dim ond menywod, merched a rhai sy'n diffinio'u hunain yn fenywod sydd yn cymryd rhan ac mae'r trefnwyr eisiau annog plant, neiniau, ffrindiau a chwiorydd i ymuno.
Er hynny nid y bwriad yw dieithrio dynion, meddai Catrin Owen: "Y syniad yw bod ni'n trio creu darn o waith celf dorfol, sy'n cynnwys menywod yn unig.
"Bydden ni'n dwli bod dynion yn dod i gefnogi ar y dydd trwy fod bron yn gynulleidfa i'r procession.
"Bydden ni'n dwli gweld dynion ar y stryd yn dathlu a chefnogi eu gwragedd, eu plant a'u ffrindiau.
"Dyw e ddim cymaint amdano excludo dynion. Mae e fwy amdano creu cyfle arbennig i fenywod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2018