Galw am ohirio arolygiadau wrth gyflwyno diwygiadau

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion

Fe ddylai arolygiadau ysgolion gael eu gohirio am flwyddyn, tra bod diwygiadau newydd yn cael eu cyflwyno, yn ôl adroddiad.

Mae arolwg gan yr Athro Graham Donaldson hefyd yn argymell y dylai ysgolion allu arfarnu eu hunain, gyda rhai'n ennill yr hawl i beidio â chael arolygiadau traddodiadol.

Daw'r awgrym i ohirio'r arolygiadau arferol rhwng 2019 i 2020 wrth i ysgolion baratoi i gyflwyno cwricwlwm newydd.

Mae un arweinydd undeb yn croesawu'r adroddiad gan ddweud bod yr argymhellion yn cynrychioli newid pellgyrhaeddol yn y broses arolygu ysgolion yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Arolygydd Addysg ac Hyfforddiant yng Nghymru, Meilyr Rowlands, bod yr adroddiad yn cydnabod "rôl hanfodol" Estyn wrth ehangu addysg pobl ifanc.

Fe gafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Estyn a Llywodraeth Cymru er mwyn edrych ar ddyfodol arolygiadau wrth i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno yn ysgolion Cymru o 2022.

Mae'r argymhellion yn cynnwys:

  • Atal y cylch arolygu dros dro ar gyfer sesiwn academaidd 2019-20 er mwyn caniatáu i arolygwyr ac ysgolion ganolbwyntio ar y cwricwlwm newydd, ond mi fyddai ysgolion mewn mesurau arbennig yn parhau i gael eu harolygu.

  • Yn dilyn y seibiant, byddai arolygiadau'n ailddechrau gyda'r pwyslais ar ysgolion yn arfarnu eu hunain gan ddod â'r system graddio i ben.

  • Yn y pen draw, y nod fyddai gadael i ysgolion ennill 'annibyniaeth' ac arfarnu eu perfformiad eu hunain. Ni fyddai'r ysgolion hynny'n cael arolygiadau ond fe fyddai Estyn yn dilysu'r broses

'Methu adeiladu ar ofn'

Yn ôl yr Athro Donaldson, mae angen gwneud y newidiadau er mwyn sicrhau bod Cymru'n datblygu "system addysg ddeinamig o safon uchel".

"Ar hyn o bryd, ma' gyda ni agwedd benodol at arolygu ac atebolrwydd - sef bod pob ysgol yn cael ei thrin yr un peth - beth bynnag yw safon yr ysgol," meddai.

"Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw creu rhaglen benodol wedi ei theilwra sy'n caniatáu i ysgolion sy'n gallu bod yn greadigol, ac yn gallu gwasanaethu'r plant yn dda, i gael y cyfle i wneud hynny.

"Byddai hyn hefyd yn rhyddhau adnoddau arolygu i helpu'r ysgolion hynny sy'n cael trafferth i wella."

"Mae system sy'n rhoi pwysau ar ysgolion er mwyn gwella'n unig yn mynd â chi i ryw fan. Ar adegau ma' hynny'n angenrheidiol, er mwyn sicrhau newid, ond nid dyna'r ffordd i greu system addysg deinamig o safon uchel.

"Does dim modd adeiladu systemau addysg o ansawdd uchel ar ofn."

Disgrifiad o’r llun,

Pennaeth Ysgol Gynradd Dolau Gareth Evans

'Ffrind Beirniadol'

Yn ôl David Evans o undeb athrawon NEU Cymru, mae argymhellion Graham Donaldson yn newid pellgyrhaeddol i'r broses arolygu ysgolion yng Nghymru.

Dywedodd y byddai nifer o fewn y sector yn eu "croesawu nhw, yn enwedig gyda'r diwygiadau addysgol uchelgeisiol sydd eisoes ar y gweill".

Un pennaeth a oedd yn croesawu cynnwys yr arolwg oedd Pennaeth Ysgol Gynradd Dolau, Gareth Evans, ddywedodd fod yr elfen hunan arfarnu yn "allweddol".

"Mae bod yn flaengar ac yn rhagweithiol yn hanfodol mewn ysgol dda, a ni ddylai ysgolion fod ofn cael arolwg" meddai'r pennaeth.

Mae Rex Phillips o NASUWT Cymru yn dweud ei fod yn meddwl bod yr adroddiad yn newid cyfeiriad Estyn i fod yn 'ffrind beirniadol' yn hytrach na 'gelyn cyffredin', a bod y newid i'w groesawu.

'Esgor ar gyfnod mwy gonest'

Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Iau, croesawodd Rebecca Williams, swyddog polisi undeb athrawon UCAC, yr argymhelliad: "Mae hwn yn rhan o shifft ddiwylliannol ehangach, dwi'n credu, yn y system addysg, gyda'r cwricwlwm newydd ar y ffordd.

"Dwi'n credu bod yna sylweddoliad hefyd ein bod ni, rai blynyddoedd yn ôl, wedi mynd yn rhy bell i gyfeiriad atebolrwydd a mesur popeth a pwyslais ar ddata, asesu, barnu yn ddi-baid.

"Mi allai fe esgor ar gyfnod llawer mwy gonest ac agored wedyn," meddai.

Dywedodd Estyn y byddai'n trafod yr argymhellion gydag ysgolion.