Ateb y Galw: Rufus Mufasa

  • Cyhoeddwyd
Rufus MufasaFfynhonnell y llun, Paul Musso

Y cerddor, cantores, rapiwr a'r bardd, Rufus Mufasa, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Aneirin Karadog yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio lot... gormod... falle 'na pham dwi'n sgwennu. Atgof cyntaf yw llosgi bys fi ar ddrws y ffwrn, a blister afiach yn codi'n syth ar ôl, a wyneb Dad yn troi'n hollol wyn, a'r ddau o ni'n sefyll o dan y tap dŵr oer... mond tua un mlwydd oed o'n i.

Wnes i ddim crïo - roedd wyneb Dad yn waeth na'r ddamwain, ond nes i beidio cyffwrdd â'r ffwrn eto.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Ocê... oh man!! Brian Conley o "itsa puppettttt" fame!

A... Tupac, Eminem, Kurt Cobain, Karate Kid yr 80au.

Disgrifiad o’r llun,

Dydi Brian Conley yn edrych yn ddigon o sioe?!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi ddim yn siarad amdano nhw! Shhh! Siŵr o fod gormod. Well peidio atgyfodi nhw....

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n crïo'n aml... dwi'n chwerthin yn aml hefyd. Mae crïo yn beth iach i 'neud; ifanc, hen, merched, dynion...

Wnes i stopio crïo am flwyddyn - y dagrau ar streic - a ges i acne afiach. Ar ôl crïo un noson, roedd fy wyneb yn hollol glir pan godais i yn y bore. Paid ofni crïo. Paid ofni chwerthin. Ni'n troi lan i'r byd 'ma yn crïo!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wrth gwrs! Mae gen i lawer o rai hollol wych hefyd!

Dwi'n proper gwaith caled, mae brain fi'n llawn y rhan fwy o'r amser, wastad yn sgwennu, creu, sticio "stwff" ar waliau, llyfrau sgrap, wastod yn creu, deg peth yr un amser... fi fel deranged magpie mewn rave! Dwi'n caru darllen, gormod ar yn un pryd...

Dwi'n deall fy mod i jyst gormod o egni i rai pobl, rhy full on... ond dwi'n reit mewn i ioga hefyd!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Gen i lot o atgofion o Abertawe yn tyfu lan, a dwi 'di creu atgofion newydd yno yn ddiweddar gyda fy merched. Dwi'n rhan o'r ddinas, yn reit organic. Roedd Abertawe yn reit gefnogol gyda lansiad yr albym hefyd.

Hefyd, mae Beddgelert yn reit annwyl i mi. Es i a fy nghi, Lenocs Brown, yno, ac ers iddo fe farw, dwi'n mynd nôl yn aml.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Beddgelert yn denu nifer o ymwelwyr - does dim syndod, gyda'r pentref mor hardd!

A... Tŷ Newydd! Wastod yn teimlo fel fi'n mynd adref. Mae'n lle pwysig, lle sydd wedi'n helpu fi dyfu fel artist, fel mam.. lle sydd wedi bod yn rhan o eiliadau reit bwysig yn fy mywyd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi 'di cael llawer, a hynny ar draws y byd... ond mae noson sy'n cynnwys mwy na 6 awr o gwsg yn swnio'n tip-top! Mae plant yn newid popeth, ond mae bywyd yn well, ond heb gwsg!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Ysbrydol, penderfynol, mwyn... ac un am lwc - cryf!

O Archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Ffilmiau: True Romance a Lucy.

Llyfrau: Reit galed... ond gen i go to llyfr os fi'n teimlo'n ar goll, neu angen hyder - A guide for the advanced soul gan Susan Hayward. Dwi'n dewis tudalen hollol random a jyst cael gair gyda fy hunain, a trio rhoi pob dim mewn trefn, dust myself off, a nôl mewn i'r gêm.

Dwi newydd gorfen Pijin gan Alys Conran, ac yn darllen The Golden Orphan gan Gary Raymond... dwi bach yn obsessed gyda chwmni llyfrau Parthian. Dwi methu aros am farddoniaeth newydd gan Rhian Elizabeth a Kate North, sydd hefyd yn dod allan gyda Parthian.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Alys Conran (canol, yn y sgarff) wobr Llyfr y Flwyddyn 2017 am ei nofel Saesneg 'Pigeon', sydd hefyd ar gael yn Gymraeg (Pijin)

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

DJ Brave Toaster - ni'n colli ti bro xxx

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n gallu gweld egni pobl... yn debyg i ddarllen auras - nid yr un peth, ond dyna'r unig ffordd dwi'n gallu esbonio.

Hefyd, mae gen i synnwyr arogl reit gryf, ambell waith yn rhy gryf ac mae'n fy ngwneud i'n reit sâl... fel darllen y byd gyda llygad ychwanegol, ond yn fy nhrwyn... gormod o wybodaeth. Gallu bod yn greulon, a hefyd yn reit anhygoel.

Dwi'n caru bach o focsio... ers bod yn ifanc. Gen i brosiect newydd yn dod lan am pob dim bocso... a'r Barri! Barri a Bocsio - ideal!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Bod yn fam... a sgwennu pob dim lawr sy'n teimlo'n bwysig i basio mlaen... a bwyta cacennau, canu a dawnsio, gyda phawb dwi'n eu caru.

Ffynhonnell y llun, Noel LeConte
Disgrifiad o’r llun,

Ynghyd â pherfformio ei chaneuon a'i rapiau, mae Rufus Mufasa hefyd yn barddoni ac yn ysgrifennu ei nofel Gymraeg gyntaf

Beth yw dy hoff gân a pham?

Amy Winehouse - You know I'm no good. Dwi'n caru pob dim Amy Winehouse, ond dwi'n hoffi lay-out y gân 'ma, mae fel fformat ffilm - Equilibrium > Disequilibrium > Equilibrium Restored.

Jill Scott - Getting in the way. Achos, mewn ffordd reit annwyl, mae Jill yn esbonio 'paid â meddwl am eiliad fydda i ddim yn gallu ennill mewn ffeit'!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Vegetarian Food Studio, Caerdydd. Pob dim ar y menu, ddwywaith!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Derren Brown neu Rubin "Hurricane" Carter.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Llwyd Owen