Aber Aber: Ble maen nhw nawr?
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 30 mlynedd ers i griw o fyfyrwyr ifanc yn Aberystwyth ddod yn sêr rhaglen ddogfen arloesol ar S4C a fyddai'n creu dipyn o stŵr yn y Gymru Gymraeg.
Roedd llinellau ffôn rhaglen drafod Stondin Sulwyn ar Radio Cymru yn danbaid ar ôl darlledu'r gyfres Aber Aber a oedd yn dilyn blwyddyn o fywyd coleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cyn dyddiau Geordie Shore a Love Island roedd rhai o wylwyr S4C yn gandryll gyda'r syniad fod hufen y genedl yn gwastraffu eu harian grant ar gwrw yn y coleg ger y lli.
Y ddiweddar Lowri Gwilym oedd cynhyrchydd y gyfres gafodd ei darlledu gyntaf ym mis Chwefror 1988.
Ond beth ddaeth o'r myfyrwyr ifanc yn y llun?
Siôn Jobbins
Siôn Jobbins oedd y myfyriwr o Gaerdydd gyda'r steil gwallt 'fflat top' ffasiynol oedd yn astudio gwleidyddiaeth ac yn chwarae gitâr yn ei 'stafell.
Arhosodd y bachgen o Ysgol Glantaf yn Aber a daeth yn faer y dref. Mae'n gweithio i'r Coleg Cenedlaethol erbyn hyn.
"O'n i'n casáu e - sai 'di watchiad dim un o'r rhaglenni - o'n i'n rhy embarrassed," meddai.
"Dwi'n difaru cytuno i'w wneud e. Mae digon o issues 'da chi ar ddechrau coleg heb gael criw teledu yn eich dilyn i bobman!
"O'n i'n meddwl fydden i'n cael dipyn o arian i brynu stereo newydd. Dwi'n credu mai rhyw £40 gaethon ni - oedd ddim yn lot o arian pryd hynny.
"Roedd tua pump neu chwech o bobl yn ffilmio. Roedd fel mynd ag eliffant am dro!
"Fi'n cofio'r teimlad fod pobl yn osgoi fi. Os o'n nhw'n gwybod bod y criw teledu o gwmpas yn sydyn iawn doedd 'na ddim ffrindiau o gwmpas achos doedden nhw ddim eisiau cael eu ffilmio.
"Ro'n i'n teimlo fel Moses yn cerdded drwy'r môr coch - ro'n i'n gweld pobl yn dianc a drysau'n cau pan o'n i'n dod lawr y coridor!
"Wedyn pan gafodd ei ddarlledu roedd e'n beth mawr. Roedd ar Stondin Sulwyn a phobl yn ffonio mewn i gwyno am fy acen Caerdydd i!
"O'n i ddim yn gwybod bod acen 'da fi ar y pryd a doedd dim lot o help 'da fi!
"Roedd pobl yn cwyno am yr yfed hefyd ac o'n i'n meddwl 'wel lle chi di bod?!' Ydi pobl wir yn byw bywyd mor gysgodol?
"O'n i ddim yn yfed lot yn bersonol ond tasech chi'n dilyn unrhyw bobl ifanc 18- 20 oed, boed yn gweithio mewn banc neu'n ffermio, dyna'r math o bethe fydden nhw'n ei wneud so o'n i'n meddwl bod hwnna bach yn annheg. Mae cymdeithas wedi newid bellach.
"Bydden ni ddim yn cynghori neb i 'neud e - fi ddim yn beio'r cynhyrchwyr ond dyw e jyst ddim be tishe pan ti'n cychwyn coleg!
"Ond y peth fi'n difaru fwya' yw bo' fi 'di cadw'r steil gwallt 'na mor hir - ges i flat top yn y chweched a ddylen i 'di cael gwared o hwnna!"
Ceri Wyn Jones
Mae Ceri Wyn Jones yn adnabyddus fel bardd sydd wedi ennill y Goron a'r Gadair (ddwywaith) yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac fel Meuryn cyfres Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru. Ond Saesneg oedd pwnc y "crwt di-nod" o Aberteifi yn y coleg.
"Dwi'n cofio'r cyngor a roddwyd i ni las-fyfyrwyr gan lywydd UMCA ar ein noson gyntaf yn Aber: 'Os nad 'da' chi isio cael eich ffilmio, jest codwch ddau fys i'r camerâu'," meddai.
"Dyna y maen nhw heddiw yn ei alw'n media training, dwi'n credu.
"Wedi'r wythnosau cyntaf, sylweddolodd y criw ffilmio taw crwt di-nod o'n i yn y bôn, a ches lonydd ganddynt, fwy na heb. Roedd cymeriadau amlycach a mwy lliwgar i'w dilyn, diolch i'r drefn.
"Roedd rhai o'r myfyrwyr yn grac bod y gyfres wedi canolbwyntio ar wylltineb honedig bywyd cymdeithasol Pantycelyn ac Aber, a hynny ar draul elfennau mwy cadarnhaol o fywyd y coleg.
"Roedd rhai o'r cyhoedd yn chwyrn eu condemniad o anfoesoldeb myfyrwyr Aber, ac eraill yn gandryll fod grantiau'n cael eu rhoi i bobl ifainc a wariai'r cwbwl ar gwrw ac ati.
"Fe wnes i wylio'r rhaglenni ond dwi ddim yn cofio rhyw lawer amdanyn nhw heblaw'r golygfeydd meddwol a sports car Darran Phillips!"
Daloni Metcalfe
Roedd golygfa o Daloni Metcalfe o Ddyffryn Conwy a Darran Philips, cyn brif weithredwr y Scarlets, yn gyrru o gwmpas Aberystwyth mewn car cyflym ymysg y rhai sydd wedi aros yn y cof i'r gwylwyr.
Daeth Daloni yn wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd ar S4C, yn fwy diweddar ar raglenni fel Ffermio a Fferm Ffactor.
Mae hi'n ffermio gyda'i gŵr a'i theulu yn Nhudweiliog, Llŷn, lle mae hi hefyd yn rhedeg siop Cwt Tatws o'r fferm.
Edith Hughes
Erbyn heddiw mae Edith Hughes o Langwnnadl ym Mhen Llŷn yn byw yng Nghaerdydd lle mae'n Bennaeth Archif BBC Cymru ac yn "cadw llygad barcud" ar bwy sy'n gofyn am y tapiau o'r rhaglenni!
"Dwi'n cofio'r criw yn fwy na dim byd - roedden nhw'n glên, hwyliog ac amyneddgar iawn," meddai.
"Peth arall rydw i'n gofio ydi'r cynhyrchydd Lowri Gwilym yn cael bath oer yn Neuadd Pantycelyn.
"Dwi'n difaru dim - fues i ddigon gofalus i beidio cael fy ngweld ar gamera!
"Dwi'n cofio bod 'chydig yn anhapus gyda'r ffordd cafodd ambell i olygfa ei golygu - digwyddiadau digon diniwed yn cael eu gwneud i greu argraff llawer mwy negyddol nag yr oedden nhw mewn gwirionedd.
"Fe gefais sawl sgwrs am hyn gyda Lowri Gwilym, ac roedd hi'n barod iawn i drafod chwarae teg iddi. Roedd hi'n dalentog iawn ac ymhell o flaen ei hamser.
"Roedd hyn cyn i'r math yma o raglen ddod yn boblogaidd, ac yn sicr doedd dim byd tebyg wedi ei wneud yn y Gymraeg o'r blaen. Erbyn heddiw, dwi ddim yn credu byddai yna unrhyw gwynion o gwbl.
"Fe gafon ni aduniad 30 yn Aber y llynedd - roedd hi'n hyfryd gweld pawb ac er ein bod ni gyd wedi heneiddio, dydan ni ddim wedi newid cymaint â hynny ers dyddiau coleg!"
'Rocet' Arwel Jones
Cymraeg oedd pwnc Arwel Jones o Rosybol ym Môn. Mae yntau wedi aros yn Aberystwyth hefyd lle mae'n magu teulu ac yn gweitho i'r Cyngor Llyfrau Cymraeg erbyn hyn.
"Y cof sydd gen i ydy ei fod o'n eithaf arloesol," meddai.
"Mae cyfres fly-on-the-wall yn rhywbeth cyffredin iawn erbyn hyn ond dwi ddim yn siŵr os oedd o o gwbl bryd hynny - dwi'n meddwl fod Lowri Gwilym yn eitha' cynnar yn y math yna o raglen, yn sicr y math o beth roedd hi'n ei ffilmio efo ni.
"Roeddan ni'n ddiniwed iawn hefyd. Yn yr oes yma mae popeth ar Facebook a YouTube ond doeddan ni ddim cweit yn gwybod beth oedd canlyniad y ffilmio yn mynd i fod. Roedd 'na elfen o 'dim dyna oeddan ni'n ei ddisgwyl'.
"I gymharu â theledu realaeth rŵan mae o'n ddiniwed iawn. Dwi ddim yn siŵr nad ydi myfyrwyr heddiw yn gallach na ni - achos nid gwastraffu pres grant maen nhw erbyn hyn ond gwastraffu eu pres eu hunain!
"Oedd, mi roedd 'na yfed a crôls ond roedd o'n dangos hefyd lot o weithgaredd gwleidyddol, lot o weithgaredd cymdeithasol, gwaith efo pobl anabl hefyd os dwi'n cofio'n iawn ond doedd hwnnw ddim yn cael ei drafod ar Stondin Sulwyn - roedden nhw wedi cydio mewn un elfen o be' oedd yn digwydd, ac nid ym mhopeth."
Catrin Gilkes
Heddiw mae Catrin Gilkes yn rhedeg cwmni cyfieithu ei hun nôl yn ei hardal enedigol yn yr Wyddgrug. Catrin Phylip oedd y fyfyrwraig ddrama yn y coleg, ac yna fe fu'n Catrin Epworth yn ystod ei gyrfa fel actores cyn newid enw eto wrth briodi a chychwyn teulu.
"Dwi'n cofio ryw noson allan pan ddaru nhw ddod i'n ffilmio ni'n gwneud home brew yn 'stafell un o'r merched ym Mhantycelyn!" meddai.
"Roedd o'n afiach!
"Dwi'n meddwl eu bod nhw'n plagio ni efo 'chydig o alcohol hefyd i lacio ein tafodau ni!
"Dwi'n cofio weithiau fod pobl yn mynd 'O God, mae'r criw teledu yma eto' a meddwl be' fydd mam a dad yn feddwl o hyn pan oedden ni allan yn cymdeithasu. Ond dwi ddim wir yn cofio'r ymateb.
"Dwi'n credu bod y llun ohonon ni ar y prom wedi bod ar glawr prosbectws Prifysgol Aberystwyth y flwyddyn ganlynol. Dwi'n cofio'r jympyr Aran 'na oedd gan Iwan!"
Iwan Williams
Roedd Iwan Williams o Foelgastell yng Nghwm Gwendraeth yn astudio gradd gyfun mewn Cymraeg a Saesneg ac mae'n ddarlithydd cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus i'r Coleg Cenedlaethol yn Abertawe heddiw.
Roedd wedi etifeddu'r siwmper Aran oedd ganddo yn y llun gan ei dad.
"Mam-gu ar ochr fy mam oedd wedi ei gweu hi i nhad whap ar ôl iddyn nhw briodi. Roedd hi gyda fi am flynyddoedd ar ôl 'ny achos mae lluniau ohona' i pan o'n i'n byw yn Japan ar ôl coleg o flaen ryw fynydd yn ei gwisgo!
"Y peth mwya' rydw i'n ei gofio am y gyfres oedd gymaint o ffys oedd amdani wrth i realiti bywyd myfyrwyr Cymraeg gael ei darlledu ar S4C.
"Mae pob myfyriwr blwyddyn gyntaf yn teimlo eu bod nhw'n dianc o gaethiwed cartref a rhieni ac yn sydyn reit roedd hwn yn cael ei adlewyrchu nôl arnon ni yn y diwrnodau cyn bod Facebook a chyfryngau cymdeithasol eraill yn ryw fath o ddrych i mewn i fywydau pawb.
"Roedd yn rhaglen realiti cyn i raglenni realiti ddod yn fara menyn i deledu.
"Ro'n i wedi penderfynu mod i ddim wir moyn cael fy mywyd wedi ei ddarlledu, felly ro'n i yn y cefndir, a fi'n ddiolchgar hyd heddiw!
"Roedd digon o ddrygioni'n mynd ymlaen. Mae wastad tueddiad i greu darlun rhamantus o ddiniweidrwydd coll, ond o'n ni ddim mor ddiniwed â hynny!"
Gloria Thomas
Daw Gloria Thomas o Rydaman yn wreiddiol ac astudiodd hithau Gymraeg a Saesneg hefyd.
Erbyn hyn mae'n gynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae wedi gweithio ar raglenni fel Doctors, Pobol y Cwm a Balamory.
Ymddangosodd sawl unigolyn arall adnabyddus yn y rhaglen hefyd gan gynnwys y cyflwynydd a'r gantores Shân Cothi a'r hanesydd John Davies a oedd yn warden Neuadd Pantycelyn ar y pryd.