'Troseddwyr yn dod â diwylliant gangiau i Gymru', medd AS

  • Cyhoeddwyd
Parc

Mae troseddwyr ifanc o dde-ddwyrain Lloegr yn dod â diwylliant gangiau a chyffuriau 'county lines' i Gymru, yn ôl un Aelod Seneddol.

Dywedodd Liz Saville Roberts fod nifer y carcharorion o Gymru yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gostwng, ond mae'r nifer o rannau o Loegr yn cynyddu.

Mae Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn ymchwilio i garchardai Cymru, gan ymweld â Charchar y Parc wrth iddyn nhw gasglu tystiolaeth.

Yn ystod cyfarfod o'r pwyllgor ddydd Iau, dywedodd Ms Saville Roberts fod cyfarwyddwr y carchar wedi dweud fod 75% o'u troseddwyr ifanc yn dod o Loegr, a bod 45% o'r rheiny o dde-ddwyrain Lloegr.

'Dim lles o'i gael yma'

Yn ôl AS Dwyfor Meirionnydd mae carcharorion yn cael eu gyrru ymhell o'u cartref er mwyn ceisio torri'r cysylltiad gyda diwylliant gangiau.

"Ry'n ni'n clywed am bryderon yr awdurdodau am 'county lines' a natur y diwylliant gangiau, ac mai un o'r rhesymau am eu gyrru yn bell o adre' yw i geisio torri'r cysylltiadau hynny," meddai AS Dwyfor Meirionnydd.

"Ond mae hynny i bob pwrpas yn dod â'r cysylltiadau hynny a sefydlu 'county lines' o fewn cymunedau yng Nghymru.

"Ry'n ni'n dod â diwylliant gangiau o fanna i'r fan hyn. Doedd e ddim yma o'r blaen... ddaw dim lles i ni o'i gael yma."

'County lines' yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer rhwydwaith o werthwyr cyffuriau sy'n cysylltu ardaloedd dinesig a threfol gydag ardaloedd gwledig ar draws y DU drwy ddefnyddio llinellau ffonau symudol penodol.

Fis diwethaf, fe glywodd rhaglen materion cyfoes BBC Cymru, Wales Investigates bod y gangiau'n gweithredu llinellau ffonau symudol i werthu heroin a chrac cocên yn uniongyrchol i gwsmeriaid yng Nghymru.

Mae gangiau mewn dinasoedd fel Lerpwl, Llundain, Manceinion a Birmingham yn defnyddio pobl fregus a phlant mor ifanc â 13 oed i gludo a gwerthu cyffuriau ar eu rhan mewn trefi rhanbarthol - yn aml mewn trefi arfordirol.

Bydd y gangiau yn defnyddio bygythiadau a thrais i orfodi'r rhedwyr ifanc i weithio ar eu rhan.

Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru roi tystiolaeth i'r pwyllgor, gan ddweud bod y mater yn "un o bryder sylweddol".

Dywedodd Alun Davies na ddylai Carchar y Parc gael ei ddefnyddio i gartrefu carcharorion o dde-ddwyrain Lloegr.

"Dydw i ddim am weld adnodd yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio er mwyn delio gyda phroblem sy'n bodoli yn rhywle arall yn y modd yr ydych wedi'i ddisgrifio," meddai.

Mae'r BBC wedi gofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ymateb.