Cadw dros draean o garcharorion Cymreig yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Swyddog yng Ngharchar y BerwynFfynhonnell y llun, Dan Kitwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall carchar y Berwyn ger Wrecsam ddal hyd at 2,100 o garcharorion

Dylai bod gan Lywodraeth Cymru fwy o lais wrth fynd i'r afael â'r trafferthion sy'n wynebu carchardai a charcharorion o Gymru, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Daw hynny wrth i ffigyrau awgrymu bod dros draean y carcharorion o Gymru yn cael eu cadw yn Lloegr.

Yn ôl awdur y gwaith ymchwil, Roger Jones dylai'r "atebion gael eu creu yng Nghymru" gan fod gan y Cynulliad gyfrifoldeb dros sawl agwedd o'r gwasanaeth yn barod.

Dyma yw'r tro cyntaf i wybodaeth yn benodol am sefyllfa carchardai yng Nghymru gael ei gasglu ynghyd mewn adroddiad, gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi cynnydd mawr yn nifer y carcharorion sy'n hunan niweidio, ac mewn ymosodiadau ar staff.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod nhw'n cymryd "camau brys" i fynd i'r afael â'r problemau hunan niweidio, a'u bod wedi penodi miloedd yn rhagor o swyddogion carchardai.

Y darganfyddiadau

Mae pum carchar i ddynion yng Nghymru, ac erbyn diwedd mis Ebrill 2018 roedd 4,291 o bobl dan glo ynddynt.

Yn ôl Mr Jones, er bod nifer y llefydd mewn carchardai wedi cynyddu ers 2010, mae 39% o garcharorion o Gymru yn dal i gael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr.

Yn 2017, roedd carcharorion o Gymru yn cael eu cadw mewn 108 o wahanol garchardai, ac roedd 28 o Gymry mewn carchar ar Ynys Wyth.

Er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg llefydd fe wnaeth y Swyddfa Gartref agor Carchar Berwyn ger Wrecsam yn 2017, sy'n gallu gofalu am garcharorion categori B a C.

Mae Carchar Berwyn yn gallu dal 2,200 o garcharorion - 999 oedd yno erbyn diwedd Ebrill 2018.

Os yw'r carchar yn cyrraedd ei chapasiti, hi fyddai'r carchar fwyaf poblog yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Lluniau Getty

Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod nifer y carcharorion o Loegr sydd wedi eu lleoli yng Nghymru wedi mwy na dyblu ers i Garchar Berwyn agor ei drysau, ac erbyn diwedd mis Mawrth 2018 roedd chwarter yr holl garcharorion yng Nghymru yn dod o Loegr.

Does dim carchar i fenywod yng Nghymru, felly mae'r holl garcharorion benywaidd o Gymru yn cael eu cadw yn Lloegr.

Ar gyfartaledd mae menywod yn cael eu cadw 101 milltir o'u cartrefi, o'i gymharu â 53 o filltiroedd ar gyfartaledd i ddynion o Gymru.

Roedd bron i hanner y plant o Gymru oedd yn cael eu cadw dan glo yn byw mewn canolfannau yn Lloegr.

Mae darpariaeth gwasanaethau Cymraeg yn "newidiol" ac yn "anghyson" ar hyd carchardai Cymru.

Yn ôl yr adroddiad mae yna ddiffyg cefnogaeth a chyfleusterau i gefnogi carcharorion Cymraeg yn ogystal â phrinder staff sy'n medru'r iaith.

Problemau 'unigryw' Cymru

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio'n bennaf ar ddiogelwch o fewn y carchardai.

Ynddo mae'n nodi bod pum carcharor y dydd ar gyfartaledd yn hunan niweidio, a bod y raddfa llawer yn uwch o'i gymharu â charchardai Lloegr.

Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod un ymosodiad bob dydd ar aelod o staff, ar gyfartaledd, a bod nifer yr ymosodiadau yn 2017 saith gwaith yn fwy nac yn 2011.

Roedd mwy o ddigwyddiadau treisgar yng Ngharchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 2016 a 2017 na mewn unrhyw garchar arall yng Nghymru a Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae carchar Fictorianaidd Abertawe wedi'i adeiladu i ddal 268 ond yn ystod yr arolwg ym mis Awst 2017 oedd 458 o ddynion wedi'u carcharu yno

Yn ei gasgliad mae Roger Jones yn dweud bod gan Gymru "broblemau penodol ac unigryw" ac mae'n galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gadw at eu haddewid yn 2017 i sicrhau fod y system o ryddhau data sy'n benodol i Gymru yn cael ei hwyluso.

Mae hefyd yn cydnabod bod sawl cwestiwn pwysig i'w hateb am atebolrwydd gwleidyddol y system garchardai mewn gwlad ddatganoledig.

"Tra bod y cyfrifoldeb o daclo nifer o'r pynciau sydd wedi cael eu hamlinellu yn un i weinidogion Llywodraeth Prydain yn Whitehall, mae'r dylanwad sydd gan weinidogion yng Nghymru dros les ac iechyd carcharorion, taclo camdriniaeth cyffuriau, gwarchod plant, addysg o fewn y carchar a hyrwyddo'r iaith Gymraeg, yn dangos y gallai, ac y dylai, yr atebion gael eu creu yng Nghymru," meddai.

'Camau brys'

Mewn datganiad, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae'r Ysgrifennydd Cyfiawnder wedi dweud yn glir bod nifer yr achosion o hunan niweidio o fewn ein carchardai yn rhy uchel a dyna pam rydyn ni'n cymryd camau brys i fynd i'r afael â hyn.

"Rydyn ni wedi recriwtio dros 3,000 o swyddogion carchar newydd ar draws y DU yn yr 18 mis diwethaf er mwyn gwella diogelwch ac er mwyn ceisio cynorthwyo troseddwyr.

"Mae agosatrwydd at y cartref yn cael ei ystyried pan mae'r penderfyniad yn cael ei wneud i ble mae carcharor yn mynd ond rhaid hefyd edrych ar hyd y ddedfryd, y drosedd dan sylw a chapasiti'r carchar."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ddiwedd y llynedd, yn ystyried dyfodol carchardai yng Nghymru yn ogystal â nifer o faterion eraill yn ymwneud â chyfiawnder a'r system gyfreithiol.

"Mae disgwyl i'r Comisiwn adrodd eu canfyddiadau a'u hargymhellion yn ystod 2019."