Y capel o fewn siop Howells, Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Ddydd Iau, 7 Mehefin, torrodd y newyddion fod siop Howells yng Nghaerdydd am gau fel rhan o ad-drefnu cwmni House of Fraser, perchnogion y busnes.
Yn sgil y newyddion trist hyn, daeth hi i'r amlwg fod y siop wedi bod yn cuddio cyfrinach ers rhai blynyddoedd.
Yn 1959, prynodd James Howells Gapel Bethany, oedd erbyn hynny wedi cael ei amgylchynu bron yn llwyr gan siopau ar Heol y Santes Fair yng Nghaerdydd.
Ond yn lle bwrw hen adeilad y capel i lawr, cafodd y capel ei lyncu gan estyniad siop Howells ac mae fframwaith y capel dal yna ac yn amlwg iawn... os ydych chi'n gwybod lle i edrych amdano.
Ond does bosib fod dim o'r hen adeilad i'w weld o'r tu fewn?
Wel mae llawer o bobl sydd wedi bod yn mynychu Howells ers blynyddoedd wedi'u syfrdanu gan luniau sydd yn dangos fod llawer o hen elfennau mewnol y capel wedi'u hymgorffori yn y siop, ond bod neb yn sylwi wrth gerdded o gwmpas wrth edrych am siwmper newydd.
Does neb yn rhy siŵr pam gafodd y capel ei gynnwys yn yr adeilad newydd ar y pryd yn hytrach na'i ddymchwel fel nifer fawr o adeiladau hanesyddol eraill canol Caerdydd.
Ond y cwestiwn mawr yw, beth fydd ei dynged nawr?