Dŵr Cymru'n addo buddsoddiad o £40m

  • Cyhoeddwyd
Dŵr CymruFfynhonnell y llun, Dŵr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni'n dweud eu bod yn ail-fuddsoddi arian yn ôl i'r rhwydwaith

Mae cwmni Dŵr Cymru'n dweud y bydd yn gwario £40m yn ychwanegol ar wasanaethau dŵr a gwastraff dros y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y cwmni nid-am-elw bod yr arian yn ychwanegol i'r buddsoddiad cyfalaf uchaf erioed o £430m dros y 12 mis diwethaf.

Wrth gyhoeddi canlyniadau ariannol blynyddol, fe gofnododd y cwmni golled gweithredol o £15m - i lawr o'r ffigwr blaenorol o £99m.

Mae'r cwmni'n cyflenwi 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru, rhannau o Sir Gaerloyw, Sir Henffordd, Cilgwri a Sir Gaer.

Dywedodd prif weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones: "Mae'r buddsoddiad ychwanegol ry'n ni'n ei gyhoeddi heddiw, sy'n cwmpasu popeth o gymorth ar gyfer aelwydydd incwm isel i fuddsoddi yng ngwytnwch cyflenwadau dŵr yfed o safon uchel, oll er mwyn ennill hyder ein cwsmeriaid, bob un dydd.

"Ni allai hyn fod yn bosibl heb ein strwythur perchnogaeth nid-er-elw, sy'n sicrhau ein bod ni'n gweithio er lles ein cwsmeriaid bob amser - gan ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl am bris fforddiadwy, a'r cyfan wrth sicrhau ein bod ni'n amddiffyn yr amgylchedd naturiol rydyn ni i gyd yn dibynnu arno, nawr ac am flynyddoedd maith i'r dyfodol."

Ble mae'r arian yn mynd?

Bydd y buddsoddiad yn golygu:

  • £7m i helpu lliniaru'n risg o lifogydd yng ngorllewin Caerdydd a Bae Caerdydd;

  • £5m i wella sicrwydd y rhwydwaith dŵr yn enwedig yn Rhondda Cynon Taf ac Ynys Môn;

  • £9m i addasu argaeau i gwrdd â heriau newid hinsawdd;

  • £6m i leihau'r risg o golli cyflenwad yn Henffordd;

  • £7m i gynorthwyo pobl ar incwm isel i dalu eu biliau dŵr.

Ychwanegodd y cwmni bod y canlyniadau blynyddol yn dangos "perfformiad gweithredu cryf ar y cyfan dros y flwyddyn ddiwethaf", gyda biliau cwsmeriaid ar gyfartaledd yn cynyddu llai na'r gyfradd chwyddiant.