Her feicio 310 milltir y fodel Jess Davies dros gyn-filwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Jess Davies o Benrhyncoch ger Aberystwyth fel arfer i'w gweld fel model 'glamour' mewn calendrau a chylchgronau dynion, ac yn fwy diweddar ar S4C. Ond yr wythnos hon mae hi'n mynd ar ei beic drwy Ffrainc a Gwlad Belg i godi arian i gyn-filwyr.
O ddydd Llun, Mehefin 11, bydd Jess yn beicio dros 300 milltir dros bum niwrnod yn y Big Battlefield Bike Ride gyda'i thad, Neil, er mwyn codi arian i achos sy'n agos iawn at galonnau'r ddau.
"Mae cefnogi cyn-filwyr yn rhywbeth sy'n agos iawn at ein calonnau, yn enwedig gan fod Dad yn gyn-aelod o heddlu'r RAF ac mae llawer o aelodau fy nheulu wedi bod yn y fyddin," meddai Jess.
"Pan o'n i'n teenager o'n i 'di gwneud lot i elusen i gyn-filwyr a nes i wneud y calendr Hot Shots sy'n rhoi arian i gyn-filwyr a fi wedi bod yn gwneud gwaith i elusen Help for Heroes."
Ar ôl iddi fod yn arwyddo'r calendr ar gyfer y lluoedd arfog yng nghanolfan yr elusen yn Tedworth House, Wiltshire, sy'n helpu milwyr sydd wedi dioddef anaf corfforol neu feddyliol, cafodd ei pherswadio i gymryd rhan yn y daith feics.
"Mae Dad yn beicio trwy'r amser a'r amser diwetha' i fi feicio oedd pan o'n i'n 12 a fi nawr yn 25 - falle bo' fi bach yn naïf a bydd e'n ofnadwy - ond mae bach rhy hwyr nawr!"
Trawma a PTSD
Er iddi berswadio ei thad i gymryd rhan am ei fod yn feiciwr profiadol, mae gan Neil reswm mwy personol dros gymryd rhan.
Yn gyn-aelod o'r Awyrlu a'r Heddlu a wynebodd ei broblemau ei hun wrth ddygymod â natur anodd y swyddi mae bellach yn gweithio i elusen sy'n helpu cyn-filwyr yn y gymuned i ymdopi gyda phroblemau meddyliol.
Mae'n fentor i elusen Change Step sy'n gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
"Mae'n gylch cyfan i mi ar ôl gyrfa hir gyda'r heddlu. Rydw i'n dod nôl at fy ngyrfa yn y fyddin ac yn helpu pobl sydd wedi cael eu cyflogi gan y lluoedd arfog ac wedi bod drwy drawma ac anaf meddyliol," meddai.
Yn ogystal â PTSD, mae problemau eraill yn dod yn sgil yr anhwylder - "pethau fel iselder a gorbryder - mae hynny'n broblem enfawr ymysg cyn-filwyr," meddai Neil.
Gall fod yn gysylltiedig â marwolaeth, camddefnyddio sylweddau, problemau gyda pherthynas, unigrwydd a methu gadael y tŷ, meddai Neil.
Ymunodd Neil â'r Awyrlu yn 17 oed. Yn 18 oed roedd yn patrolio strydoedd Gogledd Iwerddon gyda reiffl, ar anterth y gwrthdaro yno.
"Rydych chi'n gweld digwyddiadau trawmatig pan rydych chi yn y lluoedd arfog," meddai.
"Yn fy achos i, yn anffodus, fe ddes i ar draws pethau fel aelod o'r heddlu milwrol ac roedd rhaid inni ddelio gyda digwyddiadau.
"Roedd yna achos ofnadwy yn ne Cymru tua 20 mlynedd yn ôl lle bu farw plant ac fe wnaeth hynny effeithio lot arna i, ymysg pethau eraill.
"Yn ogystal a theithiau operational i lefydd fel Irac ac Afghanistan, mae yna ddamweiniau hefyd. Mae pobl yn gweithio gyda pheiriannau trwm ac yn gwneud pethau peryglus. Rydych chi hefyd yn delio gyda phethau fel hunanladdiad ac mae hynny'n gallu gadael ei ôl, a dyna ddigwyddodd i mi.
"Y pethau ddigwyddodd imi yn yr Awyrlu pan oeddwn i'n 17,18, 19, mae'r rheiny'n dod nôl atoch chi pan rydych chi'n cael eich wynebu gyda'r un peth eto.
"Os nad ydych chi'n delio gyda trawma ar y pryd fe all ddod nôl i'ch brathu a dyna ddigwyddodd imi ac fe es i'n sâl iawn o'i herwydd.
"Yn ffodus, rydw i drwyddo fe nawr a dyna pam rydw i mor angerddol am fy swydd newydd yn helpu cyn-filwyr ac yn eu cyfeirio at therapydd gwych sydd gennym ni yng Ngheredigion."
Tra gyda'r heddlu - Heddlu'r Met yn gyntaf ac yna Heddlu Dyfed Powys - hyfforddodd Neil fel asesydd trawma, fel ffordd o geisio rhoi cefnogaeth i gydweithwyr.
"Fe wnes i hynny oherwydd doeddwn ddim eisiau iddyn nhw gael eu gadael, fel ges i, heb unrhyw gefnogaeth," meddai.
Mae prosiectau fel yr hyn un mae Neil yn gweithio iddo yn dibynnu ar roddion gan elusennau fel Help for Heroes a digwyddiadau fel y reid feics, ond gallai'r cyllid hwnnw ddod i ben cyn hir ac mae Neil o'r farn y dylai'r arian i gefnogi pobl sy'n gadael y lluoedd arfog ddod gan y llywodraeth ganolog.
"Mae'r dynion a'r merched yma allan yna ar eu pennau eu hunain, does neb yn dod i'w canfod nhw, a chael triniaeth iddyn nhw ac yn y pen-draw fe allai'r canlyniad fod yn drychinebus i'r gymuned, eu bywydau a'u teuluoedd.
"Yn fy marn i, fe ddylai fod yn rhan o'r pecyn i'r dynion a'r merched sy'n gadael y lluoedd arfog gael eu rhoi mewn cysylltiad gyda mentoriaid yn y gymuned leol... cyn i'r broblem ddod yn un go iawn."
Mae Jess hefyd yn gobeithio y gall eu her feicio helpu i godi'r arian sydd ei angen ar brosiectau tebyg: "Sdim lot o support o'r llywodraeth i rhywbeth felna, cyn i elusen Help for Heroes ddechrau doedd dim llawer i helpu cyn filwyr."