Galwad ar y llywodraeth i 'hybu sector ofod Cymru'
- Cyhoeddwyd
Dyw Llywodraeth Cymru "ddim wedi gwneud unrhyw beth" i hybu'r sector ofod yng Nghymru, yn ôl un arbenigwr.
Dywedodd Dr Bleddyn Bowen o Brifysgol Caerlŷr ei fod yn faes "rydym yn ei anwybyddu ar berygl ein hunain".
Mae wedi galw ar weinidogion Cymru i sefydlu grantiau er mwyn hybu ymchwil a mentergarwch o fewn sector ofod Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwneud a chanolfannau academaidd arbenigol sydd yn datblygu busnes o fewn y maes.
'Diffyg diddordeb'
Mae technoleg o'r fath yn gallu cael ei ddefnyddio i chwilio'r gofod a'r ddaear yn ogystal â chael ei ddefnyddio ar gyfer lloerennau cyfathrebu, tywydd ac amgylcheddol.
Mae'n faes polisi sydd ddim wedi'i ddatganoli i Gymru, ond gall Llywodraeth Cymru roi cefnogaeth i'r diwydiant ac i academyddion gofod yng Nghymru drwy weithio gydag Asiantaeth Ofod y DU ac Asiantaeth Ofod Ewrop.
Yn ôl ffigyrau Asiantaeth Ofod y DU yn 2014-15, fe wnaeth y sector ofod yng Nghymru gynhyrchu £31m a chyflogi bron i 200 o bobl.
Roedd 35 sefydliad o fyd addysg uwch, diwydiant a'r llywodraeth yn rhan o weithredoedd gofodol, gan gynnwys prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd.
Mae Maes Awyr Llanbedr yng Ngwynedd hefyd yn cael ei ystyried fel safle posib ar gyfer canolfan awyrofod cyntaf y DU.
Ond dywedodd Dr Bowen, gynt o Brifysgol Aberystwyth, wrth raglen Sunday Politics Wales fod angen i weinidogion Cymru geisio annog mentergarwch yn y sector drwy grantiau neu fenthyciadau er mwyn manteisio ar sector "o bwys difrifol".
"Falle nad oes ganddyn nhw'n adnoddau i fod â diddordeb, neu falle bod y sector ofod dal yn gymharol fach yng Nghymru, bod neb wedi meddwl gwneud unrhyw beth neu gyflwyno'r achos i Lywodraeth Cymru, y tu allan i ddiwydiant hefyd," meddai.
"Mae'r ffaith bod cymaint o'r gweithgaredd yn digwydd ar lefel y DU a'r UE hefyd wedi golygu llai yn meddwl y dylai Llywodraeth Cymru wneud unrhyw beth am y peth."
Adnewyddu strategaeth
Cafodd Strategaeth Ofod Cymru ei lansio yn 2015 gan Lywodraeth Cymru ar y cyd ag asiantaeth fasnach Fforwm Awyrofod Cymru.
Dywedodd prif weithredwr y fforwm, John Whalley fod cynnydd wedi bod yn araf ond eu bod wedi codi proffil Cymru yn y sector a bod rhagor o fuddsoddiad i ddod.
"Rydyn ni'n canolbwyntio ar yr ochr profi a gwerthuso yng Nghymru achos mae gennym ni gyfleusterau gwych fel y maes awyr yn Llanbedr, yr ardal brofi ym Mhentywyn, a Maes Radnor yng nghanol Cymru," meddai.
"Ond mae elfen arall i'r gofod hefyd, sef manteisio ar ddata'r gofod ar gyfer pethau fel tywysu lloeren, darlledu, arsylwi'r byd.
"Mae gennym nifer o gyrff yng Nghymru eisoes, a bydden i'n disgwyl gweld y niferoedd hynny'n cynyddu'n sylweddol."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru bod sawl "canolfan ragoriaeth" ym mhrifysgolion y wlad a bod rhai o "gwmnïau gorau'r byd" yng Nghymru.
Ychwanegodd y bydd strategaeth ofod y llywodraeth yn cael ei hadnewyddu er mwyn ceisio "adeiladu ar y meysydd o gryfder".
"Rydyn ni'n credu y bydd cyfleodd gwych i weithio gydag Asiantaeth Ofod y DU a sefydliadau addysg Gymreig er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio ar beth sydd gennym yn y sector ofod a'r sector diwydiannau technoleg ar y funud, fel bod modd i ni achub y blaen o ran datblygiadau gofod technolegol," meddai.
Bydd Sunday Politics Wales yn cael ei darlledu ar BBC One Wales am 11:00 fore Sul 10 Mehefin, a bydd y rhaglen hefyd ar gael ar BBC iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd15 Medi 2017