Ystyried peidio carcharu am fethu talu treth y cyngor

  • Cyhoeddwyd
Melanie Woolcock
Disgrifiad o’r llun,

Fe alwodd Melanie Woolcock am newid i'r drefn bresennol y llynedd, wedi iddi ymladd ei hachos yn llwyddiannus

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cael gwared ar garchar fel cosb am beidio talu treth y cyngor.

Cafodd o leiaf 62 o bobl eu carcharu yng Nghymru a Lloegr yn 2016/17 am beidio talu'r dreth.

Ond ar ôl i ddynes o Ben-y-Bont ar Ogwr herio penderfyniad llys i'w charcharu am ddyledion treth, ac ennill, mae'n bosib bod camgymeriadau wedi bod mewn achosion tebyg.

Wrth lansio ymgynghoriad dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford: "Yn fy marn i dyw mynd i ddyled ddim yn drosedd.

"Mae yna gost sylweddol i'r pwrs cyhoeddus wrth garcharu pobl a dyw gweithred o'r fath yn gnweud dim i ddelio â'r rhesymau am y ddyled i awdurdod lleol na chwaith yn gostwng y ddyled.

"Mewn sawl achos mae'n gwneud y sefyllfa yn waeth."

Ffynhonnell y llun, PA

Mae Melanie Woolcock o Borthcawl yn dweud nad yw hi'n deg carcharu pobl am eu bod, o bosib, yn methu fforddio i dalu bil.

Fe gafodd hi ei charcharu am 40 diwrnod wedi iddi gael ei dedfrydu i 81 diwrnod o garchar yn 2016 am fethu â thalu £10 yr wythnos tuag at ei dyled.

Wrth ymladd ei hachos honnodd ei bod yn rhy sâl i weithio a'i bod yn ei chael hi'n anodd i fwydo ei hun a'i mab yn ei arddegau - ac felly doedd hi ddim wedi gallu talu treth y cyngor.

Ar y pryd, dywedodd Cyngor Pen-y-bont bod gan awdurdodau gyfrifoldeb cyfreithiol i gasglu trethi, ond eu bod hefyd yn cynnig cefnogaeth i bobl oedd yn wynebu caledi ac mai'r dewis olaf oedd erlyn.

Er i o leiaf 62 o bobl gael eu carcharu yng Nghymru a Lloegr yn 2016/17, yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon dyw hi ddim yn bosib carcharu pobl am beidio talu'r dreth.

'Ffyrdd gwell o dalu dyledion'

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Gall Llywodraeth Cymru ddim deddfu ar yr hyn y mae'r llysoedd yn ei wneud gan nad yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli.

"Ond mae gennym bwerau i gael gwared â'r hawl i garcharu pobl yng Nghymru am beidio talu'r dreth.

"Mae 'na ffyrdd gwell y gall awdurdodau lleol eu defnyddio er mwyn sicrhau bod dyledion yn cael eu talu."

Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, yn gweithredu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac mae ffigyrau o 2016/17 yn dangos bod y cynllun wedi helpu 291,891 o gartrefi ac wedi darparu £235m o gefnogaeth ariannol.