Dau wedi marw mewn damwain awyren Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddau ddyn farw mewn damwain awyren fechan yn Sir Fynwy ddydd Sul.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i ardal Tre'r-gaer ger Rhaglan am 11:15 fore Sul, ac yn ôl Heddlu Gwent, roedd dau ddyn wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae eu teuluoedd yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Drwy gydol ddydd Sul bu swyddogion o'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr yn archwilio'r safle, ac maen nhw bellach yn cynnal ymchwiliad i geisio darganfod beth yn union ddigwyddodd.
Dywedodd un llygad dyst iddi glywed yr awyren yn hedfan uwch ei phen.
Dywedodd Jan Cooke: "Roedden ni allan yn yr ardd, ac fe welson ni awyren fechan yn hedfan uwchben, sydd yn beth eithaf cyfarwydd yn yr ardal hon.
"Rhyw fath o awyren glider oedd hi. Roedd yr injan yn dawel iawn, ac yn araf, a'r eiliad nesaf roedden ni'n ymwybodol bod yr injan wedi methu.
"Does dim syniad 'da ni beth ddigwyddodd nesa, oherwydd mi ddiflannodd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2018