Lle oeddwn i: Geraint Jarman a Steddfod yn y Ddinas
- Cyhoeddwyd
Mae 40 mlynedd ers i ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd yn 1978 ysgogi Geraint Jarman i ysgrifennu'r clasur Steddfod yn y Ddinas.
Eleni, mae'r Eisteddfod ar ei ffordd nôl i'r brifddinas ond yn hytrach na gwylio o'r ymylon, bydd Geraint wrth galon y gweithgareddau.
Yn ogystal â serennu yng nghyngerdd y Pafiliwn nos Fawrth, mae hefyd yn cael ei dderbyn i'r Orsedd - a hynny yng nghyffiniau'r ardal aml-ddiwylliannol sydd wedi chwarae rhan mor ddylanwadol ar ei gerddoriaeth.
Ar drothwy rhyddhau ei albwm ddiweddaraf, Cariad Cwantwm, dyma Geraint Jarman yn edrych nôl ar gyfnod cynnar ei yrfa - cyn y Tracsiwt Gwyrdd, a chyn y wisg werdd...
Eisteddfod ar y cyrion
Ym 1978 o'n i'n byw ar stad o dai anferth yn Llanedeyrn mewn tŷ bric modern gyda fy merch Lisa Grug oedd yn wyth mlwydd oed.
O'n i 'di bod yn ymbalfalu 'da caneuon a recordio ers dwy flynedd ac ar ddiwedd 1977 'di rhyddhau fy ail albwm unigol Tacsi i'r Tywyllwch a 'di cychwyn gigio drwy hanner cyntaf 1978.
O'n i'n edrych ymlaen at ddiwedd Awst a chael mynd i stiwdio Gwernafalau yn Llanwnda i recordio [albym] Hen Wlad fy Nhadau ar gyfer Sain.
Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno 'di lleoli ym Mhentwyn ar gyrion Caerdydd - ddim yn bell o ble oeddwn i'n byw, ond yn ddigon pell o'r ddinas i wneud unrhyw wahaniaeth.
Roeddwn 'di derbyn gwahoddiad i wneud gig i Gymdeithas yr Iaith yn gynnar yn yr wythnos yng nghlwb nos Tito's ar Heol y Brodyr Llwydion oedd 'di leoli mwy neu lai gyferbyn â'r Theatr Newydd oedd, yr wythnos honno, yn cyflwyno cynhyrchiad Theatr yr Ymylon o ddrama gerdd Meic Stevens, Dic Penderyn.
Ar y bil efo ni yn Tito's oedd y trydanol Trwynau Coch efo Myfyr Isaac a'i griw yn gofalu am y PA.
Ar y ffordd i'r sound check ar ddiwedd y prynhawn penderfynais fynd draw i Penylan ac i Wellfield Road er mwyn lladd amser.
Bws llawn o dderwyddon yr Orsedd
O'n i hanner ffordd rhwng y deli a'r siop tobaco pan drodd fy mhen a'm llygaid yn sydyn at gyfeiriad bws dwbl decar gwyrdd oedd ar lanio ger y goleuadau.
Ar unwaith sylwais fod y bws yn llawn o dderwyddon yr Orsedd yn eu gwisgoedd gwyn a gwyrdd ac, o'r ychydig a welais, sylweddolais fod y derwyddon yna heb ddim amheuaeth off duty, fel rockstars ar eu ffordd i'w gig yn yr Eisteddfod. Wrth reswm, o'n i'n licio hwnna!
Cyrhaeddais y gig efo Tich a John Morgan, bas. Roedd y Trwynau ar fin gorffen eu set, roedd y lle'n hwmian, yn llawn o Gymry ifanc yn mwynhau ei hunain yn chwys i gyd.
Aeth y set yn grêt a wnes i fwynhau - ninnau'n rhoi a hwythau'n derbyn. Un o'r goreuon.
Y diwrnod canlynol o'n i'n dal i feddwl am y derwyddon ar y bws ac yna'r gig yn Tito's. A dyna oedd dechreuad y gân Steddfod yn y Ddinas.
O'n i wedi chwarae efo'r band ein gig gyntaf erioed mewn Eisteddfod ac i mi, yr Eisteddfod gyntaf i mi brofi oedd yn defnyddio'r ddinas ei hun fel lleoliad.
Mae 'di digwydd o'r blaen ac felly gall eleni fod yn un o'r Eisteddfodau mwyaf diddorol a gwahanol - nid mewn cae, ond ar bafin.
Bydd Geraint Jarman yn canu yn Gig y Pafiliwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Fawrth, 7 Awst. Bydd hefyd yn sôn am y farddoniaeth yn ei ganeuon yn y Slot Chwarter i Chwech yn y Babell Lên ar ddydd Mercher, 8 Awst.
Hefyd o ddiddordeb: