Eluned Morgan eisiau bod yn arweinydd Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eluned Morgan ei hethol fel AC dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2016

Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan wedi cadarnhau ei bod hi eisiau ymuno yn y ras ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru, er iddi fethu â chael cefnogaeth gan aelodau Cynulliad eraill y blaid hyd yma.

Dywedodd mai hi oedd yr ymgeisydd oedd yn cynrychioli newid yn yr etholiad i olynu Carwyn Jones.

Ond dyw hi ddim yn credu bod rhaid i'r arweinydd newydd fedru siarad Cymraeg, gan "na fyddai hynny'n deg ar y boblogaeth".

Yn wahanol i'w gwrthwynebwyr, Mark Drakeford a Vaughan Gething, does ganddi'r un AC arall yn ei chefnogi'n gyhoeddus.

Mae angen enwebiadau gan bum aelod arall er mwyn sefyll fel ymgeisydd.

Dim ond Mr Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, sydd â digon o gefnogaeth ar hyn o bryd.

'Profiad' o Ewrop

"Dwi'n meddwl bydde fi'n yn yr un math o sefyllfa a Mark Drakeford - felly centre left. Mae hwnna'n safbwynt dwi wedi cael erioed," meddai Ms Morgan.

Dywedodd hefyd y byddai tyfu'r economi er mwyn trechu tlodi yn rhan ganolog o'i hymgyrch.

Fe ddywedodd Ms Morgan, sy'n aelod o Dŷ'r Arglwyddi a chyn-aelod o Senedd Ewrop, nad oedd hi wedi gofyn i ACau ei henwebu.

Mae'r etholiad yn gyfle i Lafur adnewyddu yn dilyn bron 20 mlynedd wrth y llyw, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond Mark Drakeford sydd â digon o gefnogaeth i sefyll am yr arweinyddiaeth ar hyn o bryd

Ar raglen y Post Cyntaf fore Mawrth dywedodd Ms Morgan: "Rwy'n aelod newydd i'r Cynulliad ond mae gen i lot fawr o brofiad y tu hwnt i'r Bae.

"Dwi'n credu fod e'n bwysig bo fi'n gallu dod â'r profiad yna o Senedd Ewrop...o Dŷ'r Arglwyddi.

"Y prif beth fydd yn wynebu ni yn y blynyddoedd nesa' yw Brexit, ac mae'r 15 mlynedd fues i ym Mrwsel yn golygu bo fi â dealltwriaeth o'r effaith mae e'n mynd i gael ar economi Cymru."

Dim angen medru'r Gymraeg

Ond pan ofynnwyd iddi a oes angen i'r arweinydd, sef y prif weinidog, fedru siarad Cymraeg ei hateb oedd: "Na dwi ddim yn meddwl bod e'n angenrheidiol.

"Bydde fe'n help wrth gwrs, ond ddim yn angenrheidiol.

"Dwi'n meddwl ein bod ni'n wlad lle mae 80% o'r bobl ddim yn siarad Cymraeg, a dwi'n meddwl bydde hynny'n cyfyngu ar nifer y bobl fydde'n gallu rhoi eu henwau ymlaen.

"Dwi ddim yn meddwl bydde hynny'n deg ar y boblogaeth."

Newid y system ethol

Ym mis Ebrill fe wnaeth Ms Morgan ofyn i aelodau cyffredin y blaid rannu eu syniadau ar gyfer polisïau.

Bydd yr ymateb i'w gwahoddiad yn helpu ffurfio "maniffesto'r bobl", meddai Ms Morgan, gan ychwanegu: "Ar y sail yna fe fyddaf yn gofyn am gefnogaeth ffurfiol gan aelodau Cynulliad eraill cyn diwedd yr haf."

Dywedodd Ms Morgan hefyd y dylai Llafur Cymru newid y ffordd mae'n ethol arweinwyr.

Dan reolau coleg etholiadol y blaid, mae'n bosib bydd yr enillydd yn cael ei ethol heb fwyafrif o bleidleisiau gan aelodau cyffredin.

Mae gwrthwynebwyr i'r system yma - gan gynnwys Mr Drakeford - eisiau i Lafur Cymru defnyddio'r drefn un bleidlais i bob aelod, fel sydd wedi digwydd mewn etholiadau'r blaid ar lefel Prydeinig ers 2015.

Dywedodd Ms Morgan y dylai Llafur Cymru wneud yr un peth, ond bod angen gwarchod llais yr undebau llafur o fewn y drefn newydd.