Pum newid i dîm Cymru i wynebu'r Ariannin yn yr ail brawf
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi gwneud pum newid i'r tîm fydd yn wynebu'r Ariannin yn ail brawf taith yr haf yn Santa Fe ddydd Sadwrn.
Bydd Ellis Jenkins yn dychwelyd i'r rheng ôl gyda James Davies.
Fe fydd Ryan Elias, Tomas Francis ac Aled Davies yn dechrau gêm ar y daith am y tro cyntaf.
Yr unig newid arall yw Owen Watkin fydd chwarae yn lle Hadleigh Parkes sydd wedi torri ei fys yn dilyn y fuddugoliaeth o 23-10 yn y prawf cyntaf.
'Hill yn gapten'
Mae Corey Hill unwaith eto wedi cael ei ddewis fel capten.
Daeth cadarnhad hefyd fod Samson Lee wedi dychwelyd i Gymru er mwyn derbyn triniaeth ar anaf i'w gefn.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Roeddwn wedi dweud ein bod eisiau i bawb gael cyfle i fod yn rhan o'r 23.
"Roeddem eisiau gwneud ychydig o newidiadau, ond roeddem hefyd angen cadw ychydig o ddilyniant o'r wythnos gyntaf, yn hytrach na gwneud llawer o newidiadau," meddai.
Tîm Cymru yn llawn:
Olwyr: Hallam Amos; Josh Adams, Scott Williams, Owen Watkin, George North; Rhys Patchell, Aled Davies;
Blaenwyr: Rob Evans, Ryan Elias, Tomas Francis, Adam Beard, Cory Hill (capten), Ellis Jenkins, James Davies, Ross Moriarty.
Eilyddion: Elliott Dee, Nicky Smith, Dillon Lewis, Bradley Davies, Josh Turnbull, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Tom Prydie.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2018