Pryder am ddyfodol hirdymor Ysbyty Cymuned Dinbych

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Dinbych
Disgrifiad o’r llun,

23 gwely sydd ar gael yn yr ysbyty bellach

Mae pryderon am ddyfodol hirdymor ysbyty yn y gogledd wedi i fwy o welyau gael eu tynnu oddi yno.

Does 'na ddim gwelyau i gleifion ar lawr cyntaf Ysbyty Cymuned Inffyrmari Dinbych bellach yn sgil problemau diogelwch tân.

Cafodd nifer y llefydd eu cwtogi o 40 i 30 ym mis Rhagfyr wedi profion, ac ar ôl asesiad pellach, mae saith gwely arall wedi eu colli.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud y byddan nhw'n buddsoddi mewn gwelliannau ac yn cynnal astudiaeth i weld a ddylai'r llawr cyntaf gael ei adfer.

Galw am atebion

Mewn diweddariad ar eu gwefan, dolen allanol yr wythnos diwethaf, dywedodd y bwrdd iechyd na fyddai'r adeilad 200 mlwydd oed "yn rhoi sicrwydd digonol o ran adraniad - a fyddai'n hanfodol wrth wagio'r llawr cyntaf yn ddiogel pe bai tân".

Maen nhw'n dweud mai "ond drwy ail osod slab strwythurol y llawr cyntaf a'r mannau cysylltiedig yn llwyr" fyddai modd i'r adeilad gydymffurfio â rheoliadau tân.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys Thomas ei fod yn" gobeithio'n fawr" bod yr ysbyty yn rhan o gynlluniau'r bwrdd iechyd

Gan gydnabod y rheswm am y newidiadau, dywedodd y cynghorydd dros Ddinbych Isaf, Rhys Thomas, ei fod eisiau atebion gan y bwrdd iechyd am ddyfodol y safle.

"'Da ni isio gwybod beth yn union ydy'r cynlluniau yma, a faint o arian maen nhw'n barod i'w wario i wella'r ysbyty yma - i ddod â'r gwelyau yn ôl neu ymestyn y clinigau sydd yma," meddai.

"Mae'n eithaf posib fod gan y bwrdd iechyd gynlluniau hirdymor dros y pump i chwe blynedd nesaf, a dwi'n gobeithio'n fawr fod yr ysbyty'n rhan o'r cynlluniau hynny."

'Gwerthfawr i'r gymuned'

Un sy'n byw tafliad carreg o'r ysbyty yw Nerys Ann Roberts.

Roedd ei rhieni hi, Mary a David Jones, yn gleifion yno ar wahanol adegau rai blynyddoedd yn ôl, a dywedodd bod yr ysbyty yn adnodd pwysig.

"Roedd o'n gwneud gwahaniaeth mawr i ni, achos dwi ddim yn gyrru," meddai.

"Ro'n i'n gallu cerdded yno, a ro'n i'n mynd dwy neu dair gwaith y diwrnod."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nerys Ann Roberts bod yr ysbyty yn adnodd pwysig i'r gymuned

Dywedodd mai ei neges i'r bwrdd iechyd yw bod "cymuned yn hollbwysig".

"Peidiwch jyst edrych ar faint mae'r ysbytai bach cymunedol yn costio, ond mor werthfawr ydyn nhw yn ein cymunedau ni."

'Dim cynllun i leihau'

Mewn datganiad ychwanegol, dywedodd y bwrdd iechyd y byddan nhw'n "dechrau ar raglen buddsoddiad cyfalaf ar gyfer y gwaith adfer" a'u bod yn comisiynu dwy astudiaeth.

Bydd un yn ystyried pa waith adfer sydd ei angen ar y llawr cyntaf a'r llall yn canolbwyntio ar y posibilrwydd o ddefnyddio rhannau eraill o'r llawr gwaelod ar gyfer gwelyau cleifion mewn.

Ychwanegodd llefarydd: "Nid oes gennym gynlluniau i leihau'r gwasanaethau a ddarperir yn Inffyrmari Dinbych ac mae'r ysbyty'n parhau yn rhan bwysig o'n darpariaeth gwasanaethau i'r boblogaeth leol."