Llythyr tri AC Plaid Cymru'n galw am herio Leanne Wood

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Mae BBC Cymru ar ddeall fod tri AC Plaid Cymru wedi arwyddo llythyr yn galw am gystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid.

Mae Llyr Gruffydd, Sian Gwenllian ac Elin Jones wedi gofyn i gyd-aelodau i ystyried cynnig eu hunain fel ymgeiswyr.

Mae'r ffenestr sy'n caniatáu ceisiadau i herio am arweinyddiaeth pleidiau yn y Cynulliad yn cau ar 4 Gorffennaf.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru fe ddywedodd Leanne Wood y bydd hi'n camu o'r neilltu fel arweinydd Plaid Cymru ar ôl etholiad 2021, os na fydd hi'n brif weinidog.

Dau enw wedi'u crybwyll

Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gaerfyrddin wedi datgan cefnogaeth i Adam Price fel ymgeisydd posib ar gyfer yr aweinyddiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny wrth raglen Taro'r Post eu bod wedi gofyn wrth Mr Price a fyddai'n fodlon cael ei enwebu'n swyddogol.

Dyw Mr Price heb ymateb hyd yn hyn, meddai Mr Lenny.

Disgrifiad o’r llun,

Y tri AC sydd wedi arwyddo'r llythyr - Sian Gwenllian, Llyr Gruffydd ac Elin Jones

Mae AC blaenllaw arall, Rhun ap Iorwerth yn mynnu nad oes ganddo "unrhyw gynlluniau" i herio Ms Wood am yr arweinyddiaeth, ac mai hi ddylai arwain Plaid Cymru nes o leiaf etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.

Mae ffynonellau sy'n agos at Mr Price a Mr ap Iorwerth wedi dweud wrth BBC Cymru bod pwysau cynyddol ar y ddau i herio Ms Wood.

Bydd canghennau Plaid Cymru mewn dwy etholaeth yn cwrdd yn y 10 diwrnod nesaf i drafod enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth, ac mae disgwyl iddyn nhw gyfuno i enwebu Mr Price.

Yn ôl ffynonellau mae canghennau'r blaid ar draws Sir Gaerfyrddin wedi ysgrifennu at Adam Price yn erfyn arno i ymgeisio.

Dyw Plaid Cymru ddim wedi ymateb hyd yma.