Tân Casnewydd: Symud 40 o bobl i ganolfan hamdden

  • Cyhoeddwyd
Newport fireFfynhonnell y llun, Twitter/ Michael Yearsley

Mae 40 o bobl wedi cael eu symud i Ganolfan Hamdden Casnewydd wrth i ddiffoddwyr geisio delio gyda thân mawr yn y ddinas.

Dechreuodd y tân mewn adeilad gwag ar Stow Hill sy'n arwain tuag at ganol y ddinas.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi disgrifio'r digwydd fel "un mawr" gyda nifer o griwiau ar eu ffordd.

Mae'r gwasanaeth wedi trydar rhybudd i bobl gadw'n glir o'r ardal wrth i'r criwiau wneud eu gwaith.

Mae'r neges yn dweud: "Os gwelwch yn dda parchwch eich gwasanaethau brys sy'n gofyn i bobl gadw'n glir o'r ardal... mae hyn er mwyn eich diogelwch chi. Diolch."

Ffynhonnell y llun, Twitter/ Michael Yearsley