Cynnig barddoniaeth a tai chi i gynorthwyo carcharorion

  • Cyhoeddwyd
Carchar Abertawe

Mae barddoniaeth a tai chi ymysg rhai o'r meddyginiaethau amgen sy'n cael eu cynnig i garcharorion yn Abertawe.

Mae sesiynau sy'n amrywio o therapi celf, chwaraeon a garddio yn cael ei gynnig i ugain carcharor yn y ddalfa.

Bydd y cyrsiau cyntaf yn dechrau yn ystod y mis, a gallai prosiectau eraill gael eu cyflwyno sy'n ceisio gwella iechyd a lles a cheisio lleihau'r siawns o aildroseddu.

Mae cyfeirio pobl at ystod eang o wasanaethau di-glinigol ar gael yn barod i gleifion sydd wedi cofrestru gyda rhai meddygon teulu yn Abertawe.

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, sy'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol o fewn y carchar, wedi gweithio gyda Cyngor Abertawe, Gwasanaethau Gwirfoddol a Carchar Abertawe i ddatblygu'r cynllun peilot.

Bydd y sesiynau yn cynnwys:

  • Gweithdy therapi celf

  • Cefnogaeth emosiynol - Annog y dynion i gefnogi ei gilydd y tu fewn ac allan o'r carchar,

  • Therapi gwybyddol fydd yn helpu'r grŵp gymryd gofal o'i lles - helpu i wneud dewisiadau llesol ynglŷn â bwydydd llesol a rheoli poen,

  • Ymarfer corff - wyth sesiwn Tai Chi a sesiynau lles,

  • Gwella sgiliau bywyd - sgiliau sylfaenol a gwybodaeth ynglŷn â bwyta'n iach.

Dywedodd Mathew Taylor, sy'n gyfrifol am leihau aildroseddu yng ngharchar Abertawe: "Y gobaith yw bydd y rhaglenni yma yn cynorthwyo'r dynion i wneud penderfyniadau gwell ynglŷn â'i ymddygiad yn y dyfodol.

"Byddai'n cynorthwyo'r dynion i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer eu dyfodol, fyddai'n cyfrannu at beidio aildroseddu."

"Gobeithio byddai'n arwain at brosiectau mwy, gan gynnwys gwaith atal o amgylch trais yn y cartref, ymddygiad niweidiol a mwy."