Jane Dodds: Etholiad yn gyfle i sicrhau 'grŵp mawr' yn y Senedd

Er mai Ms Dodds yw'r unig aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd, mae'n dweud ei bod wedi llwyddo i "newid pethau"
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn dweud bod etholiadau'r flwyddyn nesaf yn gyfle i'r blaid sicrhau "grŵp mawr" yn y Senedd.
Dywedodd Jane Dodds ei bod yn "bositif iawn" am obeithion y blaid, a'i bod yn barod iawn i aros fel arweinydd yn dilyn cyfnod ansicr y llynedd.
Nododd hefyd na fyddai'r blaid yn fodlon trafod y posibilrwydd o gydweithio gyda'r Ceidwadwyr na Reform os nad oes un plaid yn ennill mwyafrif clir.
Ar drothwy blwyddyn hollbwysig, bu'n siarad â Rhodri Llywelyn o raglen Newyddion S4C yn y trydydd mewn cyfres o gyfweliadau gydag aelodau blaenllaw y prif bleidiau gwleidyddol.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd7 Mai
Jane Dodds yw unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd ar hyn o bryd.
Er bod arolygon barn, yn gyffredinol, yn rhoi'r blaid yn bumed y tu ôl i Blaid Cymru, Reform, Llafur a'r Ceidwadwyr ar tua 7%, mae Ms Dodds yn hyderus y bydd ganddi gwmni aelodau eraill ei phlaid yn y siambr wedi'r etholiad nesaf.
"'Da ni yn bositif iawn ar gyfer yr etholiad, mae gennym ni ymgeiswyr dros Gymru, a rhai fydd yn gweithio'n galed iawn," meddai.
"Mae gennym ni negeseuon cryf iawn a chyfle i gael grŵp mawr o ar draws Cymru yn y Senedd y flwyddyn nesaf."
Ychwanegodd fod arolygon barn yn gallu bod yn gamarweiniol a'i bod yn rhagweld ei phlaid yn cael effaith gwirioneddol ar fywydau pobl Cymru.
"Dwi 'di bod ar ben fy hun yn gweithio'n galed - ac edrychwch ar yr hyn 'da ni wedi ei gyflawni ar gyfer pobl Cymru. Felly gyda mwy nag un (AS) dwi'n gwybod y gallwn ni gyflawni mwy i newid bywydau pobl yma yng Nghymru.
"'Da ni eisiau mwy, a fyddwn ni'n llwyddiannus wrth geisio cael mwy hefyd."

Roedd Syr Ed Davey wedi galw ar Jane Dodds i ystyried ei rôl o fewn y blaid ym mis Tachwedd y llynedd
Dywedodd Jane Dodds fod "croeso mawr" i aelodau'r blaid o rannau eraill o'r DU i ddod i Gymru i gefnogi'r ymgyrch - gan gynnwys yr arweinydd Syr Ed Davey.
Mae'r berthynas rhwng y ddau wedi ymddangos yn ansefydlog ar adegau, gyda Syr Ed yn dweud ym mis Tachwedd y llynedd y dylai Ms Dodds "ystyried ei rôl" gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedd y sylwadau yn ymwneud â'r modd y gwnaeth hi ddelio ag achos o gam-drin rhywiol pan oedd hi'n gweithio i Eglwys Loegr.
"Roedd hynny dros wyth mis yn ôl... dwi'n dal yma, ac mae'n bwysig bod y blaid yma yng Nghymru efo arweinydd fel fi sydd efo profiad - a dwi'n canolbwyntio ar ennill seddi," meddai.
"Mae o fyny i ni fel plaid yma yng Nghymru, a dyna'r penderfyniad sydd wedi ei wneud - mae'r bwrdd yma a'r bobl sy' tu ôl i'r swyddi yng Nghymru yn dweud mai fi ydi'r person i aros.
"Dwi eisiau aros, dwi eisiau gweithio'n galed a dwi eisiau ennill seddi hefyd."
Ychwanegodd: "Mae croeso mawr i bawb ddod yma o San Steffan... Mae o [Syr Ed] wedi gweithio'n galed i gael pobl i mewn i Lundain, a 'da ni eisiau sicrhau bod pawb yn dod yma i helpu ni yng Nghymru.
"Mae 'na etholiad yn yr Alban ar yr un adeg a dwi'n siwr fydd Ed a'i dîm a phobl eraill yn dod yma i Gymru."
'Ond am siarad â phobl sydd â'r un egwyddorion'
Wrth drafod y posibilrwydd o glymblaid wedi'r etholiad yn 2026, dywedodd Ms Dodds y byddai ei phlaid "ond yn siarad gyda phobl sydd â'r un egwyddorion â ni".
"...Reform a'r Ceidwadwyr - dydyn ni ddim yn gallu gweld sefyllfa lle allwn ni gydweithio neu fynd mewn i lywodraeth gyda nhw."
"Mae gyda ni job i'w wneud, 'da ni'n curo drysau, mae gennym ni swyddfeydd ar agor ar draws Cymru, ac rydyn ni'n ceisio sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod be 'da ni'n sefyll dros.
"'Da ni'n sefyll dros blant sy'n dlawd - mae'n ofnadwy yma yng Nghymru - 'da ni'n sefyll dros fwy o swyddi... dros yr amgylchedd a sicrhau bod mwy o arian yn mynd mewn i ofal plant."
Fe fydd cyfle i glywed gan bob plaid dros yr wythnosau nesaf, ac fe allwch ddarllen mwy o gyfweliadau gyda chynrychiolwyr Plaid Cymru a Reform eisoes.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.