Torri coed yn Eryri ar gyfer barbeciw

  • Cyhoeddwyd
LLyn Geirionydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae arwyddion ger y llyn yn rhybuddio pobl nad oes caniatâd iddyn nhw aros yno dros nos

Mae gwersyllwyr yn Eryri wedi cael eu beirniadu am dorri coed i'w llosgi ar farbeciw.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod meinciau picnic hefyd wedi cael eu llosgi a bod sbwriel wedi cael ei ollwng yn Llyn Geirionydd ger Llanrwst.

Does dim caniatâd i wersylla ar y safle ac mae un o geidwaid CNC wedi sylwi ar y broblem yn ystod y tywydd twym diweddar.

Dywedodd llefarydd: "Mae'r difrod sydd wedi cael ei wneud yn difetha'r lle arbennig hwn i bawb arall a hefyd mi all fod yn beryglus i fywyd gwyllt."

Mae'r lleoliad yn boblogaidd gan gerddwyr, beicwyr modur a sgiwyr dŵr.

Mae CNC wedi annog pobl i aros ar feysydd gwersylla gerllaw yn hytrach na niweidio'r amgylchedd.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru