Talat Chaudhri: Pwnjabi Prydeinig sy'n faer ar Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Y mis diwethaf cafodd Maer newydd tref Aberystwyth ei benodi - Dr Talat Chaudhri.
Cafodd ei eni a'i fagu yn Essex ac fe gafodd ei dad ei eni mewn man sydd bellach yn cael ei alw'n Pacistan.
Mae'n cyfeirio at ei hun fel Pwnjabi Prydeinig ac ieithydd sy'n medru, ymysg ieithoedd eraill, y Lydaweg a'r Gymraeg.
Pam dysgu Cymraeg yn y lle cyntaf, felly, ac yntau â dim cysylltiad amlwg â'r wlad?
Dyma gwestiwn ofynnodd Aled Hughes iddo ar ei raglen ar Radio Cymru fore Llun.
"Mae pobl yn gofyn y cwestiwn yna yn aml iawn - mae'n anodd iawn i esbonio," meddai Talat Chaudhri.
"Dwi wastad wedi bod yn ieithydd. [Mae'n gyfuniad o] wyliau pan yn blentyn, darnau o lenyddiaeth a rhywsut daeth pethau at ei gilydd."
Yn gyn-fyfyriwr yn Rhydychen, mae bellach yn gweithio ym maes cyfrifiadureg ar ei liwt ei hun, yn golygu a chyfieithu ac yn gynghorydd.
Mae'n cyfaddef bod dysgu Llydaweg a Chymraeg ar yr un pryd wedi bod yn "eitha' anodd" ond mae bellach yn diwtor ar oedolion yn y ddwy iaith.
Hefyd o ddiddordeb
Pan symudodd i'r ardal yn 1998, prin fyddai'n dychmygu 20 mlynedd yn ddiweddarach y byddai'n dod yn faer ar y dref mae bellach yn ei alw'n gartref.
"Dwi'n gweld y peth fel braint i gynrychioli'r dre' yn wleidyddol a hefyd o safbwynt seremonïaidd ar yr un pryd," meddai.
"Mae cyngor tref yn fath o gyngor cymunedol felly mae o'n bwysig mynd o gwmpas a chefnogi be' sy'n digwydd yn y dref yn gymunedol yn ogystal â gwleidyddol.
"'Swn i'n dweud i mi gael croeso enfawr pan ddois i yma ac yn groes i ddisgwyliadau weithiau - mae'r hen ystrydeb 'we'll keep a welcome in the hillside', mae'n wirionedd.
"O'r cychwyn cynta' dwi'n credu bod y Cymry jyst yn disgwyl bod pobl yn parchu nhw ac yn dangos parch i'w diwylliant ac mae croeso i unrhyw un sy'n gwneud hynny yn fy mhrofiad i."
Newid agwedd yn 'destun pryder'
Ond mae Talat Chaudhri wedi gweld newid mewn agwedd yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae wedi dioddef ymosodiadau hiliol yn ei erbyn.
"Dau ddigwyddiad hyll yn ddiweddar, pethau hiliol," meddai. "Un yn y parc, un mewn tafarn. Fydda'i ddim yn mynd i'r manylion.
"Mae'r hinsawdd wedi newid ers y refferendwm [i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016], a dwi'n meddwl bod y fath gasineb wedi bod yn cuddio ers sbel.
"Pan o'n i'n fach yn Essex, adeg honno oedd o'n fwy derbyniol i ddweud pethau hiliol a dwi'n falch i ddweud bod hynny wedi gwella yn sylweddol [ond] ar ôl y refferendwm dyma'r hen sylwadau yn dod allan eto, ac mae hynny'n destun pryder."