Cyn-faer Penfro'n euog o bum trosedd rhyw yn erbyn plant

  • Cyhoeddwyd
David Robert Boswell

Mae cyn faer Penfro yn wynebu dedfryd o garchar ar ôl i reithgor ei gael yn euog o bumed trosedd rhyw hanesyddol.

Mae Llys y Goron Abertawe wedi cael David Boswell, 57, yn euog o dreisio merch ifanc yn y 1990au ac ymosod arni yn anweddus deirgwaith.

Mae hefyd wedi ei gael yn euog o ymosod yn anweddus ar ferch arall.

Wrth ei ddychwelyd i'r ddalfa, fe ddywedodd y Barnwr Keith Thomas iddo ddisgwyl dedfryd o garchar pan fydd yn mynd o flaen y llys nesaf ar 13 Gorffennaf.

Roedd Boswell wedi pledio'n ddieuog i wyth o gyhuddiadau'n dyddio o'r cyfnod rhwng 1991 a 1994 ac yn ymwneud â dau blentyn oedd o dan 13 oed ar y pryd.

Fe benderfynodd y rheithgor ei fod yn ddieuog o dri chyhuddiad o ymosod yn anweddus.