Llys yn cael cyn-faer Penfro yn euog o dreisio plentyn

  • Cyhoeddwyd
David Robert Boswell

Mae cyn-faer Penfro wedi ei gael yn euog o dreisio merch ifanc yn y 1990au cynnar.

Fe gafwyd David Boswell, 57 oed, yn euog hefyd o dri chyhuddiad o ymosod yn anweddus arni hi ac ar ferch arall.

Ond fe benderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ei fod yn ddieuog o dri chyhuddiad pellach o ymosod yn anweddus.

Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd y rheithgor yn parhau i ystyried eu dyfarniad ddydd Mawrth yn achos un cyhuddiad sy'n weddill o ymosod yn anweddus.

Roedd Boswell wedi pledio'n ddieuog i wyth o gyhuddiadau oedd yn dyddio o'r cyfnod rhwng 1991 a 1994 ac yn ymwneud â dau blentyn oedd o dan 13 oed ar y pryd.

Fe wnaeth y Barnwr Keith Thomas dderbyn barn y mwyafrif o'r rheithgor ar un cyhuddiad o dreisio.

Cafodd Boswell ei ethol yn gynghorydd Ceidwadol ym Mai 2001.

Cafodd ei wahardd gan y blaid pan gafodd ei gyhuddo o'r troseddau.