Sir Fflint i barhau â chludiant am ddim i ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i beidio â bwrw ymlaen gyda chynnig i gael gwared â chludiant am ddim i rai disgyblion.
Roedd yr awdurdod lleol yn ystyried diddymu cludiant am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a rhai crefyddol.
Mi fydd y cyngor yn parhau i ystyried newidiadau i sefyllfa cludiant unigolion mewn addysg ôl-16.
Dywedodd y cabinet, ar ôl trafodaethau hir, na fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu cyflwyno tan fis Medi 2020.
'Rhaid cael mwy o arian'
Yn ôl y Cynghorydd Ian Roberts mae'r Cyngor "eisiau tyfu ysgolion Cymraeg dros y Sir" ac yn "cytuno gyda nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg".
Er hyn, mae Mr Roberts yn galw am fwy o arian i addysg ac ar gyfer cludiant i addysg Gymraeg yn arbennig.
"Os ydyn ni'n tyfu nifer o blant mewn ysgolion Cymraeg, mae'n rhaid i ni gael mwy o arian gan y llywodraeth i dalu am y twf."
Mae rheidrwydd ar gynghorau i ddarparu cludiant i'r ysgol i blant rhwng 3-16 oed, ond nid oes rhaid ei ddarparu am ddim os oes ysgol 'addas' yn agosach na'r un mae'r disgybl yn ei fynychu.
Mae ysgolion addas yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n cynnig addysg sy'n addas i oedran y disgybl.
Nid yw dewis rhiant o iaith na ffydd yn gorfod cael ei ystyried i'r pwrpas yma, er bod sawl awdurdod yn defnyddio eu disgresiwn i ystyried y materion hyn wrth ddynodi ysgolion addas.
'Balch iawn'
Fe wnaeth y cynnig gwreiddiol ysgogi cryn dipyn o ymateb o wahanol feysydd, gyda rhai yn cwestiynu'r effaith bosib ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal.
Dywedodd undeb athrawon UCAC y byddai dileu cludiant am ddim yn ergyd uniongyrchol i bolisi Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn ôl Dilwyn Roberts-Young, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC roedd y ffaith ei fod dan drafodaeth hyd yn oed yn "gwbl annerbyniol".
Mae Nick Thomas o'r grŵp ymgyrchu SYFFLAG - Mudiad Sir y Fflint dros Addysg Gymraeg yn "falch iawn" gan fod y cynigion gwreiddiol yn "fygythiad mawr i ysgolion Cymraeg Sir Fflint".
Ychwanegodd: "Mae plant yn cael eu cludo o gwmpas y sir i wahanol ysgolion a gallai fod wedi bod yn ergyd farwol i rai o'r ysgolion gwledig".
Fodd bynnag, mae'r sefyllfa o ran cludiant i ddisgyblion mewn addysg ôl-16 yn "rhywbeth i boeni amdano" yn ôl Mr Thomas.
Bydd y cyngor nawr yn adolygu cludiant am ddim i'r disgyblion yna wrth i drafodaethau am newidiadau posib barhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2018