Dileu cludiant am ddim yn 'ergyd farwol' os yn digwydd
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd corff sy'n hybu addysg Gymraeg yn Sir y Fflint yn dweud bod yna berygl y bydd rhai o ysgolion Cymraeg y sir yn cau yn y dyfodol.
Daw sylwadau Nick Thomas o'r grŵp ymgyrchu SYFFLAG - Mudiad Sir y Fflint dros Addysg Gymraeg - wrth i'r awdurdod ystyried diddymu cludiant am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a rhai crefyddol.
Bydd Cyngor Sir Y Fflint hefyd yn ystyried cael gwared â chludiant am ddim i ddisgyblion sydd â rhieni sy'n derbyn budd-daliadau, ac unigolion mewn addysg ôl-16.
Ar raglen Post Cyntaf dywedodd Nick Thomas eu bod yn "hynod o siomedig" gyda phenderfyniad y cyngor i drafod y mater.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn dweud nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud i newid polisi.
'Ergyd farwol'
"Ni'n gallu gweld hwn fel ergyd farwol i rai o ysgolion gwledig Cymraeg yn y sir," meddai Nick Thomas.
"Mae'r cyngor ddim wedi gwneud llawer dros y degawdau diwethaf i hybu Cymraeg yn Sir y Fflint.
"All hwn gau rhai o'r ysgolion dwi'n meddwl."
Mae'r cyngor wedi dweud mewn adroddiad y byddai unrhyw newidiadau'n cael "eu hystyried yn ofalus".
Mae rheidrwydd ar gynghorau i ddarparu cludiant i'r ysgol i blant rhwng 3-16 oed, ond nid oes rhaid ei ddarparu am ddim os oes ysgol 'addas' yn agosach na'r un mae'r disgybl yn ei fynychu.
Mae ysgolion addas yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n cynnig addysg sy'n addas i oedran y disgybl, dolen allanol.
Nid yw dewis rhiant o iaith na ffydd yn gorfod cael ei ystyried i'r pwrpas yma, er bod sawl awdurdod yn defnyddio eu disgresiwn i ystyried y materion hyn wrth ddynodi ysgolion addas.
Cost o £2m y flwyddyn
Mae costau cynnal y cludiant hwn yn fwy na £2m ar hyn o bryd.
Mae hyd at 720 disgybl yn derbyn cludiant am ddim i ysgolion Cymraeg, gyda'r un nifer ar gyfer ysgolion crefyddol.
Yn ôl amcangyfrif y cyngor, maen nhw'n gwario £490,000 y flwyddyn ar gludo disgyblion i ysgolion Cymraeg, a £435,000 i ysgolion crefyddol.
Yn ôl ffigyrau o fis Tachwedd 2017, roedd 1,900 o ddisgyblion addysg ôl-16 yn derbyn cludiant am ddim.
Mae £1.2m yn cael ei wario gan y cyngor ar gludiant i ddisgyblion colegau a chweched dosbarth hefyd.
Nid yw'n glir beth yw'r ffigwr ar gyfer unigolion sy'n derbyn budd daliadau.
'Ystyried yn ofalus'
Mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i gynghorwyr ddydd Mawrth, mae'r cyngor wedi cynnig tri opsiwn - cyflwyno ffïoedd, dod â'r gwasanaeth i ben neu barhau â'r system bresennol.
Dywed yr adroddiad eu bod nhw wedi amlygu sawl maes lle mae cludiant yn cael ei gynnig "tu hwnt" i'r polisi presennol.
Mae'r cyngor wedi nodi gall unrhyw arbedion ar gludiant cyfrwng Cymraeg dorri eu polisi iaith eu hunain.
Dywedodd aelod o gabinet y cyngor, Ian Roberts y "byddai unrhyw newidiadau i'r polisi trafnidiaeth angen trafodaethau sy'n ystyried safbwyntiau'r rhanddeiliaid allweddol".
Ychwanegodd: "Byddai angen cyfnod gweithredu hefyd a fyddai'n golygu na fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud tan fis Medi 2020 ar y cynharaf."
Dywedodd yr adroddiad y byddai'r cyngor yn ystyried unrhyw newidiadau yn ofalus, a byddai effaith y newidiadau ar deuluoedd gydag incwm isel a sydd â mwy nag un plentyn yn cael ei asesu.
'Cwbl Annerbyniol'
Dywed undeb athrawon UCAC y byddai dileu cludiant am ddim yn ergyd uniongyrchol i bolisi Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn ôl Dilwyn Roberts-Young, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC mae'r ffaith ei fod dan drafodaeth hyd yn oed yn "gwbl annerbyniol".
Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) hefyd wedi mynegi pryder ac yn galw ar y cyngor i beidio ystyried dileu'r cludiant am ddim.
Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG y byddai hyn yn "tanseilio" cyfrifoldeb statudol y cyngor i gynyddu'r nifer sy'n derbyn addysg Gymraeg.
'Addysg Gymraeg yn flaenoriaeth'
Yn ôl Cyngor Sir y Fflint, mae'n arferol i'r awdurdod arolygu'i bolisïau a bod yr adolygiad dan sylw "yn un niwtral o'r ddarpariaeth bresennol, heb fod wedi penderfynu ar y canlyniad".
Dywedodd y prif swyddog addyg dros dro, Claire Homard: "Pe byddai'r Cabinet yn cynnig adolygu unrhyw agwedd ar y polisi presennol, yna fe fydd cyfnod o ymgynghori â'r cyhoedd cyn gwneud unrhyw benderfyniad i'w newid."
Wrth ymweld â safloedd Ysgol Gynradd Gymraeg Croes Atti yn Y Fflint a Shotton ddydd Gwener, dywedodd y cynghorydd sy'n gyfrifol am addysg y sir, Ian Roberts fod datblygu addysg Gymraeg yn "flaenoriaeth i'r cyngor, fel y gwelir yn ein Strategaeth Cymraeg mewn Addysg - un o'r 15 o gynlluniau o blith 22 awdurdod lleol sydd wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2017
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2016