Cyngor Sir y Fflint o blaid adnewyddu Theatr Clwyd
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi pleidleisio o blaid parhau a'r gwaith cynllunio ar gyfer prosiect gwerth £30m i ailddatblygu Theatr Clwyd.
Roedd y cyngor wedi derbyn argymhellion i roi £330,000 tuag at broses datblygu ac ail-gynllunio'r theatr yn yr Wyddgrug.
Mae disgwyl i'r prosiect yn ei gyfanrwydd gostio hyd at £30m, a bydd angen cyfraniad o tua £22m gan Lywodraeth Cymru.
Byddai'r arian yn cyfrannu tuag at adnewyddu'r adeilad yn ogystal â gwella profiad cwsmeriaid ac aelodau o'r gymuned.
'Wir angen buddsoddiad'
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler y byddai'n "fuddsoddiad hynod o bwysig".
"Mae'r pum safle perfformio, y siopau, bwyty ac orielau yn atynnu niferoedd mawr o ymwelwyr pob blwyddyn, gan fod o fudd i economi Fflint"
Ychwanegodd: "Mae wir angen y buddsoddiad er mwyn datblygu a moderneiddio'r adeilad eiconig yma ymhellach"
Mae'r Cyngor Celfyddydau eisoes wedi cyfrannu £1m at y prosiect, gyda £5m pellach wedi ei glustnodi yn eu cyllideb cynllunio.