Codi corff o fynwent Porthaethwy i gynnal profion DNA

  • Cyhoeddwyd
Llun o Joseph Brendon DowleyFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Joseph Brendon Dowley ar goll yn 1985, pan yn 63 oed

Mae'r heddlu yn gobeithio darganfod beth ddigwyddodd i ddyn o Iwerddon a aeth ar goll 33 mlynedd yn ôl wrth agor bedd ar Ynys Môn.

Bydd y gweddillion corff yn cael eu codi o fynwent Porthaethwy ar yr ynys ddydd Mawrth a'u harchwilio gyda thechnoleg DNA newydd.

Bellach, y gred yw bod y gweddillion yn perthyn i Joseph Brendon Dowley, a gafodd ei weld diwethaf ar fferi yn Iwerddon.

Cafodd y corff ei ddarganfod ar draeth Rhosneigr ar 9 Tachwedd 1985 gan aelodau o'r awyrlu o Ganolfan y Fali pan oedden nhw allan yn rhedeg.

Ffynhonnell y llun, Geograph/ Eric Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n credu bod y corff, sydd wedi cael ei gladdu ym mynwent Porthaethwy, wedi cael ei gario i'r lan gan y llanw

Er gwaethaf ymchwiliad, fe brofodd yr ymdrechion i'w adnabod yn ddiwerth ac fe gafwyd "dyfarniad agored" mewn cwe

Fodd bynnag, o dan Ymgyrch Orchid, mae ditectifs bellach yn gallu defnyddio technoleg DNA i helpu i adnabod olion dynol a gafodd eu darganfod yn yr ardal dros y pum degawd diwethaf.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Don Kenyon, o Heddlu Gogledd Cymru, fod ymchwiliad wedi awgrymu bod "posibilrwydd cryf" mai corff Mr Dowley oedd hwn.

Dychwelyd yr olion

Os yw'r profion yn dangos mai corff Mr Dowley sydd yn y bedd, mae'r heddlu'n gobeithio y bydd modd dychwelyd yr olion i Iwerddon am angladd.

"Prif bwrpas yr ymchwiliad yw adnabod, aduno a chaniatáu gwasanaeth angladd urddasol er mwyn i deuluoedd a ffrindiau dalu eu parch," meddai.

Roedd Mr Dowley yn 63 ac yn byw yn Llundain ar yr adeg y diflannodd.

Ar ôl ymweld â theulu yn Iwerddon ym mis Hydref 1985, fe'i gwelwyd diwethaf gan berthynas pan aeth ag e i'r porthladd i ddal y fferi.